British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Mawrth 2010, 15:53 GMT
Cymry'n dathlu Gwyl eu Nawddsant

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi 2009. Llun:   stdavidsday.org
Eleni fydd y seithfed tro i'r orymdaith gael ei chynnal

Mae gweithgareddau yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yng Nghaerdydd fe gafodd gorymdaith ei chynnal tra bod Cadw yn cynnig mynediad am ddim i gestyll ac adeiladau hanesyddol eraill.

Yn ystod y dydd fe wnaeth Archesgob Tyddewi anfon neges i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Ac mae 'na neges wedi dod gan Ysgrifennydd Tramor America.

Mae'r orymdaith yng Nghaerdydd yn cael ei chefnogi gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth y Cynulliad.

Y llynedd roedd 6,000 yn yr orymdaith.

"Y nod yw dathlu ein Cymreictod mewn modd llawn egni a sicrhau bod y diwrnod yn un i' gofio i bawb sy'n cymryd rhan," meddai David Petersen, cadeirydd yr orymdaith.

Athletwyr

Cychwynnodd yr orymdaith o Neuadd y Ddinas cyn gorffen yn Yr Ais.

Roedd aelodau iau tîm cenedlaethol Athletwyr Cymru yn yr orymdaith yn cludo neges Archesgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Wyn Evans.

Dros y Sul cafodd y neges ei chyflwyno i wahanol drefi yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Yn Abertawe mae 'na gyngerdd i ddathlu Gŵyl Ddewi gyda Rhydian Roberts a Chôr Orffwis Treforys ac mae noson arbennig i berson ifanc o Gastell-nedd.

Bydd Ellie McGurie yn canu Si Heil Lwli Mabi gyda Rhydian.

Dywedodd ei mam Sarah fod y teulu wrth eu bodd fod Ellie wedi cael gwahoddiad i ganu.

Llefarydd Ty'r Cyffrein, John Bercow, yn derbyn tusw o Gennin Pedr gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain.
John Bercow yn derbyn tusw o Gennin Pedr

"Cafodd Ellie wybod yn bump oed ei fod yn awtistig. Roedd hi'n cael trafferth siarad ond roedd hi'n gallu canu'n fendigedig."

Yn y neges a ddaeth gan Hillary Clinton i bobl Cymru dywedodd ei bod yn anfon y cyfarchiad yn bersonol ac ar ran yr Arlywydd Barack Obama a phobl America.

"Dwi'n llongyfarch pobl Cymru wrth iddyn nhw ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, dyma gyfle i anrhydeddu diwylliant a hanes pobl Cymru a chyfle i gadarnhau ein cysylltiad o gyfeillgarwch.

"Fel Americanes o dras Gymreig mae 'na le arbennig i Gymru yn fy nghalon," meddai.

"Mae harddwch y tirwedd a phenderfyniad ei phobl yn amlwg.

"O ddyddiau cynnar America, mae Cymry America wedi cyfrannu at ein hanes.

"Dwi'n gwybod hefyd bod nifer o Americanwyr yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru yn yr Hydref ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghasnewydd."

I nodi Gŵyl Ddewi fe wnaeth y wefan Google ddangos llun o Gastell Caernarfon.

Ac yn Llundain fe dderbyniodd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, dusw o Gennin Pedr gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain.



HEFYD
Lluniau: Dathlu Gwyl Dewi dramor
02 Maw 09 |  Newyddion
Cymry yn dathlu Dydd Gwyl Dewi
01 Maw 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific