Fe fydd refferendwm ar roi grymoedd deddfu llawn i'r Cynulliad Cenedlaethol yn denu mwyafrif clir i'r ymgyrch Ie - dyna awgrym arolwg barn wedi'i gynnal ar ran BBC Cymru.
Fe ddywedodd 56% o'r rheiny holwyd gan gwmni ICM y bydden nhw'n pleidleisio dros roi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad, tra mai 35% ddywedodd y bydden nhw'n bwrw pleidlais Na.
Mae'r bwlch o 21% yn awgrymu tueddiad clir at gefnogaeth gynyddol i'r egwyddor fod mesurau sy'n effeithio Cymru'n unig yn cael eu creu yng Nghymru.
Fis diwethaf fe bleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad yn unfrydol i ddechrau'r broses statudol fydd yn arwain yn y pen draw at refferendwm.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymroi i gynnal refferendwm erbyn neu cyn Mai 2011 pe bai modd ennill y bleidlais.
Casgliad Confensiwn Cymru Gyfan, fu wrthi'n ystyried awydd pobl Cymru i gynnal refferendwm, oedd y byddai modd ennill pleidlais Ie ond nad oedd canlyniad y bleidlais yn hawdd i'w ragweld.
Mae'r bwlch rhwng y rheiny sy'n dweud y byddan nhw'n pleidleisio Ie a Na mewn polau BBC/ICM cyfatebol dros y tair blynedd ddiwethaf wedi tyfu o 7% yn 2008 i 13% y llynedd ac eleni'n ymestyn i 21%.
Ar drai
Pan ofynnwyd i bobl eleni sut y dylid llywodraethu Cymru, fe ddywedodd y ganran uchaf - 40% - mai eu dewis nhw fyddai cynulliad gyda grymoedd deddfu llawn a rhywfaint o rymoedd dros drethiant.
Fe ddywedodd 13% arall y dylai'r cynulliad gael grymoedd deddfu llawn ond na ddylai gael yr hawl i ymhél â threthi - yr opsiwn fyddai ar gynnig mewn refferendwm.
Awgrym bod mwyafrif clir o blaid mwy o rymoedd
Mae'r gefnogaeth i Gymru annibynnol fel pe bai ar drai.
Yn ôl yr arolwg, roedd y gefnogaeth i Gymru annibynnol ond yn parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd yn isel, 7%, a dim ond 4% oedd am i Gymru fod yn wlad annibynnol na fyddai'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Roedd yna gwymp bach yn nifer y rheiny sydd am weld pethau'n para fel y maen nhw, sef cynulliad â pheth grym i ddeddfu, o 21% llynedd i 18% eleni, a 13% - yn hytrach na 19% llynedd - sydd am gael gwared ar y cynulliad yn llwyr.
Rhinweddau
Mae'r arolwg eleni felly'n awgrymu bod llai nag un mewn tri o bleidleiswyr bellach am gamu yn ôl yn gyfansoddiadol neu aros yn yr unfan.
Fe ddywedodd 62% o'r rheiny holwyd eu bod nhw o'r farn mai Llywodraeth y Cynulliad ddylai fod â'r mwyaf o ddylanwad ar Gymru, gyda 24% yn dweud yr un peth am Lywodraeth San Steffan - ffigyrau digon tebyg i'r llynedd.
Ond pan ofynnwyd ba haen o lywodraeth oedd â'r dylanwad mwyaf ar Gymru, Llywodraeth San Steffan oedd ateb 40%, gyda 36% yn dweud Llywodraeth y Cynulliad.
Mae hynny'n mynd yn groes i'r tueddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf lle oedd ychydig yn rhagor o bobl o'r farn fod mwy o ddylanwad gan Gaerdydd na San Steffan.
Mae yna newyddion da i'r Blaid Lafur mewn dau ganlyniad arall.
Fe ofynnwyd i bobl roi eu tueddiad pleidiol i'r naill ochor a dweud ym mhwy y bydden nhw'n rhoi eu ffydd i arwain Cymru tuag at gyfnod o dwf economaidd.
Fe ddywedodd bron i hanner - 47% - eu bod nhw'n ymddiried yn Gordon Brown a Carwyn Jones, y ddau arweinydd Llafur, i wneud hynny tra bod nifer y rheiny ddewisodd y tîm Ceidwadol o David Cameron a Nick Bourne yn drawiadol is, 24%.
38% yn dweud fod gan Carwyn Jones y rhinweddau gorau i fod yn Brif Weinidog
Roedd 14% yn dewis Ieuan Wyn Jones ac Elfyn Llwyd, arweinyddion Plaid Cymru yn y cynulliad ac yn San Steffan tra bod 9% yn dweud mai yn nhîm y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg a Kirsty Williams y maen nhw'n rhoi eu ffydd.
Eto fe ofynnwyd i bobl roi eu tueddiad pleidiol i'r naill ochor a dweud pa un o arweinyddion y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru oedd â'r rhinweddau gorau i fod yn Brif Weinidog.
Arweinydd Llafur, Carwyn Jones, y dyn gamodd i swydd Prif Weinidog Cymru ychydig fisoedd yn ôl, oedd dewis 38% o bobl ac mae e gryn dipyn ar y blaen i'r lleill.
Dirprwy Mr Jones, arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones, oedd dewis 16% tra mai dim ond 10% ddewisodd y Ceidwadwr Nick Bourne ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.
Doedd ychydig dros chwarter y rheiny holwyd, 26%, ddim yn gwybod pwy i ddewis - ffigwr sy'n awgrymu bod proffil arweinyddion pleidiau Cymru'n dal yn gymharol isel.
Fe wnaeth cwmni ICM holi 1000 o oedolion ar y ffôn rhwng Chwefror 19 a 23.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.