British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Chwefror 2010, 17:50 GMT
Undeb yn beirniadu cyflogau uchel

Arian
Mae undebau wedi beirniadu cyflogau'r prif weithredwyr

Mae chwech o brif weithredwyr cynghorau Cymru yn ennill mwy na'r Prif Weinidog Carwyn Jones, yn ôl arolwg gan BBC Cymru.

Derbyniodd pedwar o'r swyddogion godiadau cyflog uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y sector gyhoeddus, gyda chyn brif weithredwr Cyngor Caerdydd Byron Davies yn derbyn codiad o 33.3% yn ei flwyddyn olaf yn y swydd.

Yn ôl undeb Unsain mae'r ffigyrau a gasglwyd gan raglen Dragon's Eye BBC Cymru yn brawf bod cyflogau prif weithredwyr "allan o reolaeth".

Mynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y codiadau yn ganlyniad i "gytundebau hanesyddol yn cael eu hanrhydeddu".

Mae Carwyn Jones yn derbyn £132,862 fel pennaeth Llywodraeth Cymru.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf roedd hynny'n llai na'r hyn dderbyniodd prif weithredwyr Merthyr, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Bro Morgannwg a Chaerdydd.

Cyn brif weithredwr Caerdydd Byron Davies enillodd y cyflog mwyaf gan dderbyn cyflog sylfaenol o £179,526 yn ei flwyddyn olaf yn y swydd.

Gyda thaliadau eraill megis tal am fod yn swyddog etholiadol enillodd gyfanswm o £208,515.

Yr ail gyflog mwyaf oedd un John Maitland Evans o Fro Morgannwg.

Roedd o'n ennill rhwng £160,000 a £170,000.

Derbyniodd godiad cyflog o 14.3 % o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Enillodd Prif Weithredwr Cyngor Abertawe, Paul Smith £155,901, 4.9% yn fwy na'r flwyddyn gynt.

Derbyniodd gweithwyr yn y sector gyhoeddus godiadau cyflog o 2.5% ar gyfartaledd y llynedd.

Yn ôl Dominic Macaskill o UNSAIN mae'n annerbyniol bod rheolwyr ar gyflogau uchel wedi derbyn codiadau cyflog yn uwch na chwyddiant.

"Dros y ddwy flynedd diwethaf mae gweithwyr llywodraeth leol wedi derbyn codiadau oedd yn is na chwyddiant.

"Mae rhewi cyflog prif weithredwr yn rhesymol ond mae rhewi cyflogau pobl sy'n ennill ychydig dros yr isafswm cyflog cenedlaethol yn annerbyniol."

Mae cyflogau prif weithredwyr yn cael eu pennu gan gynghorau unigol ac mae pob prif weithredwr yng Nghymru, heblaw un, yn derbyn dros £100,000.

Bydd rhaglen Dragon's Eye ar BBC 1 Cymru am 11.35 a BBC2 (yng Nghymru) am 7pm ddydd Iau.



HEFYD
Pryder am gytundeb cyflog cyfartal
08 Hyd 09 |  Newyddion
Datgelu cyflogau gweithwyr cyngor
17 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific