British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Chwefror 2010, 07:31 GMT
Datganoli pwerau sy'n ymwneud throseddwyr ifanc?

Y Senedd
Bu'r pwyllgor yn ymchwilio i'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru

Llywodraeth y Cynulliad ddylai fod yn gyfrifol am sefydliadau troseddwyr ifanc a chartrefi diogel i blant yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad.

Yn ôl aelodau'r pwyllgor fe ddylid datganoli'r pwerau sy'n ymwneud â mannau diogel i bobl ifanc - un o nifer o argymhellion i wella'r drefn yng Nghymru.

Bu'r pwyllgor yn ymchwilio i'r system gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru am gyfnod o 10 mis, ac maen nhw wedi gwneud 28 o argymhellion.

Fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad ac asiantaethau yn y maes geisio gwella'r modd y maen nhw'n adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, medd y pwyllgor.

Maen nhw o'r farn hefyd y dylid edrych eto ar yr arfer o anfon pobl ifanc i'r ddalfa a sicrhau bod hynny ond yn digwydd mewn amgylchiadau priodol.

Yn ôl y pwyllgor mae troseddwyr ifanc yn aml yn cael eu pardduo'n annheg - yn aml wedi'u cam-drin, wedi'u denu i gamddefnyddio cyffuriau neu wedi bod mewn gofal oherwydd problemau yn y cartref.

Er na ddylai troseddwyr ifanc deimlo y gallen nhw ei chael hi'n haws yng Nghymru, mae'n bwysig cofio, yn ôl y pwyllgor, taw plant ydyn nhw yn gyntaf, a throseddwyr yn ail.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y byddan nhw'n ystyried yr argymhellion ac yn ymateb maes o law.



HEFYD
Troseddwyr: 'Llai'n mynd i'r llys'
01 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific