British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2010, 15:59 GMT
Achub adar gwyllt wedi i olew ollwng i lyn

Gwyddau ar Lyn Fendrod yn 2007 (Llun: Enid Gwillim)
Gwyddau ar y llyn yn 2007

Mae swyddogion lles anifeiliaid wedi achub adar o lyn ger Abertawe ar ôl i olew golli.

Dywedodd yr RSPCA bod tipyn go lew o olew wedi gollwng i'r llyn ym Mharc Busnes Fendrod ger Llansamlet.

Dydi hi ddim yn glir eto be ddigwyddodd na pha fath o olew sydd wedi effeithio'r anifeiliaid.

Yn ôl llefarydd ar ran yr RSPCA mae 10 alarch wedi cael eu cludo i'w canolfan achub yn Sir Benfro ac maen nhw yn gobeithio symud 60 o adar eraill ddydd Mercher.

Dywedodd Gethin Russell-Jones wrth BBC Cymru bod 'na 25 alarch, 25 gŵydd Canada a nifer o gotieir ar y safle.

"Mae 'na arogl cryf o olew ac mae 'na haen denau o olew sgleiniog ar y plu," meddai.

"Mae hyn yn cael effaith ar eu côt ac os nad ydyn nhw'n cael eu symud maen nhw'n mynd i rewi i farwolaeth."

Ychwanegodd bod 'na olew wedi gollwng yn yr ardal dros y penwythnos ond dydi hi ddim yn glir a ydi'r broblem ddiweddara yn cael ei gysylltu â hyn.

"Mae'n anodd gwybod a oes rhywun wedi anwybyddu'r broblem wreiddiol neu ydi hyn wedi gwaethygu," meddai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific