Bu farw Dr Evans ym mis Ebrill 2005
|
Mae aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru i'w anrhydeddu â phenddelw parhaol yn nhref ei enedigaeth. Caiff y cerflun efydd o Gwynfor Evans ei ddadorchuddio gan Dafydd Elis-Thomas yn Y Barri ddydd Sul Chwefror 28. Dulyn Griffith, prifathro Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Y Barri, fydd yn llywyddu ar y diwrnod, dyn sydd wedi ymgyrchu ers amser i gael cofeb. Cafodd Gwynfor Evans ei eni yn 1912, yn fab i Dan Evans, perchennog prif siop y dref. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Heol Gladstone ac yna yn Ysgol Uwchradd y Barri cyn mynd i astudio'r gyfraith yn Aberystwyth. Enillodd sedd Caerfyrddin mewn isetholiad yn 1966. 'Asbri'r gwladgarwr' Caiff y penddelw ei ddadorchuddio yn Llyfrgell Y Barri gan yr Arglwydd Elis-Thomas a'r siaradwr gwadd fydd yr hanesydd, yr Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg. Bydd y seremoni yn cynnwys perfformiad cerddorol gan gôr Ysgol Gymraeg Sant Baruc. Y cerflunydd o Lanuwchllyn, John Meirion Morris, sydd wedi cynllunio'r penddelw gydag Euryn Ogwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni cyntaf S4C, yn llunio'r arysgrif. Mae'r arysgrif yn darllen: "Asbri'r gwladgarwr a'i ysbryd yw'n rhodd ni o'r Barri i'r byd." Cyn ddirprwy brifathrawes Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Mrs Gwenno Huws, ffurfiodd bwyllgor i gyllido'r gwaith. Fe ganiataodd y cyngor i'r penddelw gael ei osod yn y llyfrgell. Bu farw Gwynfor Evans yn 2005, yn 92 oed.
|