British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Chwefror 2010, 06:46 GMT
Difa moch daear yn 'wrthnysig' yn l gwyddonydd

Mochyn Daear
Fe fydd rhaglen difa moch daear yn cychwyn cyn diwedd y flwyddyn

Mae'r cynlluniau i ddifa moch daear i geisio rheoli diciâu mewn gwartheg yn "wrthnysig", yn ôl cyn-gynghorydd gwyddonol i Lywodraeth y DU.

Daw sylwadau Dr Chris Cheeseman, cyn-bennaeth ymchwil ar glefydau bywyd gwyllt yn yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd, wrth i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad baratoi ar gyfer rhaglen difa moch daear yng ngorllewin Cymru.

Mae disgwyl i'r rhaglen ddechrau cyn diwedd y gwanwyn.

Wrth siarad â rhaglen Eye on Wales BBC Radio Wales, dywedodd Dr Cheeseman bod y cynllun difa yn "groes i wyddoniaeth".

"Mae angen iddyn nhw sylweddoli y bydd yn cynyddu cyffredinolrwydd diciâu mewn moch daear.

"Os daw unrhyw fudd, fe fydd yn fach iawn.

"A byddan nhw ddim yn medru dweud beth fydd effaith y cynllun difa, oherwydd byddan nhw hefyd yn cyflwyno mesurau i reoli gwartheg, felly ni fydd modd cael canlyniadau gwyddonol ar wahân.

"At ei gilydd, dwi'n credu ei fod yn benderfyniad gwrthnysig.

"Hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn, fe ddylen nhw ail feddwl."

'Cefnogaeth'

Ond dywedodd prif filfeddyg Cymru, Dr Christianne Glossop, nad yw'n cytuno.

Dywedodd wrth y BBC: "Rydym wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr bywyd gwyllt, milfeddygon ac epidemiolegwyr.

Dr Christianne Glossop
Dywed Dr Glossop bod cefnogaeth sylweddol i'r polisi

"Mae ein polisi wedi cael cefnogaeth Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain a Chymdeithas Milfeddygon Prydain.

"Mae hynny'n ddigon da i mi."

Mae'r diciâu mewn gwartheg yn cael effaith ariannol sylweddol ar ffermwyr Prydain gyda'r anifeiliaid sydd wedi eu heintio yn gorfod cael eu difa.

Yn ystod 2008 cafodd 2,738 gyr eu heintio gyda'r llywodraeth yn talu dros £100 miliwn mewn iawndal.

Gall moch daear gael eu heintio gyda'r diciâu ac mae 'na dystiolaeth eu bod yn lledu'r haint i wartheg.

Oherwydd hyn, mae Llywodraeth San Steffan wedi profi sawl dull o geisio rheoli diciâu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn 2008 fe wnaeth Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan benderfynu peidio cyflwyno rhaglen difa yn Lloegr.

Ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig cyflwyno rhaglen i ddifa moch daear er eu bod yn wynebu her gyfreithiol i wneud hynny.

Eye on Wales, nos Lun am 6.32pm ar BBC Radio Wales.



HEFYD
Dechrau cynllun difa moch daear
13 Ion 10 |  Newyddion
Pwerau i ddifa moch daear yn fuan
21 Gorff 09 |  Newyddion
Diciu: Ffermwyr 'yn ddig'
30 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific