British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 20 Chwefror 2010, 16:12 GMT
Elfyn Llwyd AS yn galw am fwy o gefnogaeth i gyn filwyr

Elfyn Llwyd
Elfyn Llwyd: 'aelodau Plaid Cymru wedi gosod yr agenda ar faterion amddiffyn'

Mae Elfyn Llwyd AS wedi beirniadu'r gefnogaeth mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gyn-filwyr yn ystod cynhadledd wanwyn Plaid Cymru.

Yn ei araith yng Nghaerdydd fe wnaeth arweinydd seneddol y blaid hefyd ailadrodd galwadau'r blaid i ddod â'r milwyr yn ôl o'r rhyfel yn Afghanistan.

"Un o agweddau mwyaf truenus fy ngwaith innau dros y blynyddoedd diwethaf yw gwrando ar 'roll call' y rhai sydd wedi'u lladd o'r Lluoedd Arfog, bob Dydd Mercher yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

"Ni ffaela neb â chydymdeimlo gyda theuluoedd y rhai sydd wedi marw ac ydy, mae'n hen amser i'w dychwelyd adref," meddai.

'Haeddu ein gofal'

Fe wnaeth hefyd ddweud bod y dynion a menywod sydd yn cael eu danfon allan i Afghanistan yn "haeddu ein gofal a'n cymorth" a chyn ei araith fe wnaeth ymweld â gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol arbennig i gyn-filwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

"Eu bywydau nhw sydd mewn peryg yn feunyddiol. Rhaid, felly, inni sicrhau fod gofal a chymorth ar gael iddynt tra maent allan yno."

Yn ôl Mr Llwyd, aelodau Plaid Cymru yn San Steffan sydd wedi gosod yr agenda cenedlaethol ar faterion amddiffyn, gan gynnwys gofal am gyn-filwyr.

O ganlyniad fe wnaeth yr aelod seneddol ddweud bod mwy o bobol yn troi at Blaid Cymru fel yr unig ddewis arall i'r "status quo" yn San Steffan.

Plaid Cymru
Cafodd y gynhadledd ei chynnal yng Nghaerdydd

"Nid wyf mewn unrhyw amheuaeth o gwbl mai fel canlyniad i'r gwahaniaeth ry'n ni'n ei wneud nid yn unig yn y llywodraeth glymbleidiol yng Nghaerdydd, ond hefyd ar lefel San Steffan, y daw'r adnewyddiad newydd yma yn y gefnogaeth i ni gan bobl Cymru. "

Fe wnaeth hefyd ategu neges arweinydd y blaid eu bod nhw'n anelu at gynyddu nifer yr aelodau seneddol o dri i bump.

'Canlyniad gorau'

Ddydd Gwener dywedodd Ieuan Wyn Jones bod senedd grog yn debygol ac mai dyma fyddai'r "canlyniad gorau" i Gymru.

Dywedodd wrth y gynhadledd y byddai Aelodau Seneddol y blaid yn ymladd i warchod gwariant cyhoeddus yng Nghymru ar ôl yr etholiad.

Arweinydd Seneddol y blaid oedd y prif siaradwr ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, ond bu llywydd anrhydeddus y blaid Dafydd Wigley hefyd yn annerch yr aelodau.

Pe bai yna senedd grog, dywedodd y byddai'n rhaid i'r blaid fod yn barod i gefnogi pa blaid bynnag sy'n fodlon gwneud y gorau dros Gymru.



HEFYD
'Senedd grog yn ganlyniad da'
19 Chwef 10 |  Newyddion
Plaid: Datblygu busnesau Cymreig
18 Chwef 10 |  Newyddion
Plaid: 'Paratoi i amddiffyn Cymru'
11 Medi 09 |  Newyddion
Cynhadledd: 'Adeg dyngedfennol'
10 Medi 09 |  Newyddion
'Cenedlaethau'n talu'r pris'
04 Ebr 09 |  Newyddion
Plaid: 'Ymbellhau' a neges i Brown
03 Ebr 09 |  Newyddion
Ffioedd: Rhwyg yn dwysu
07 Maw 09 |  Newyddion
Plaid: Dafydd Iwan yn ennill
07 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific