British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Chwefror 2010, 12:23 GMT
Pobl leol o blaid datblygu maes awyr

Maes Awyr Llanbedr
Mae 'na gwmni am ddatblygu'r maes awyr

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanbedr ger Harlech roedd 'na gefnogaeth gref i gynlluniau cwmni i ddatblygu busnes ar safle hen faes awyr.

Ond clywodd y cyfarfod nos Iau fod angen goresgyn problemau cynllunio.

Dywedodd pobl leol y byddai cynlluniau Kemble Air Services yn hollbwysig o ran hybu'r economi.

Fe gaeodd Maes Awyr Llanbedr chwe blynedd yn ôl a chollodd mwy na 160 o bobl eu gwaith.

Cefnogaeth

Roedd Cymdeithas Eryri yn erbyn y cynlluniau newydd ac wedi dweud y bydden nhw'n effeithio'n andwyol ar y parc cenedlaethol.

Ond roedd y mwyafrif yn y cyfarfod cyhoeddus nos Iau o blaid y cynlluniau.

"Rydan ni o'r cychwyn cynta fel cyngor a'r gymuned, am wn i, wedi bod yn gefnogol i Kemble," meddai Gruffydd Price, cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbedr.

"Nhw ydi'r arbenigwyr yn y busnes o redeg meysydd awyr a 'dan ni'n eu cefnogi nhw.

"Mae ganddyn nhw'r hyder a'r profiad i redeg y maes awyr ac i greu swyddi. Dyna sy'n bwysig, bod swyddi yn cael eu creu i sicrhau'r gymuned."

Gwrthod

Ychydig o fisoedd yn ôl fe wnaeth Kemble Air Services gais i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol i'r safle cyn bwrw ymlaen â'u cynlluniau.

Wedi cyngor cyfreithiol fe wrthododd aelodau Awdurdod y Parc roi'r caniatâd angenrheidiol.

Ond ar ôl y cyfarfod cyhoeddus dywedodd llefarydd ar ran y cwmni ei fod o blaid ailgyflwyno'r cais.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Elfyn Llwyd, y byddai'n trefnu cyfarfod buan â'r cwmni a swyddogion y parc cenedlaethol.

"Dwi wedi cynnig i'r datblygwr y byddwn ni'n cael cyfarfod efo swyddogion y parc i drafod lle maen nhw'n meddwl yr oedd y cais gwreiddiol yn ddiffygiol," meddai.

"Dwi'n siŵr y bydd yn bosib rhoi cais arall i mewn ac y byddai'r parc yn ailystyried.

"Mae'r cynllun yma eithriadol o bwysig i'r ardal.

"Mae'n amlwg bod 'na gefnogaeth gref yn Ardudwy i gynlluniau'r cwmni ond fydd 'na ddim yn digwydd tan y bydd y materion cynllunio wedi eu setlo."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific