British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Chwefror 2010, 07:22 GMT
Cynghorau'r gogledd o blaid carchar yn yr ardal

Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon
Cynnig gwreiddiol: Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon

Mae chwe chyngor yn y gogledd yn ymgyrchu o blaid carchar mwy o faint fyddai'n gwasanaethu'r ardal a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr.

Dywedodd y chwe chyngor, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, eu bod wedi llunio rhestr fer o safleoedd posib.

Fe fyddai'r carchar newydd yn dal 1,500 o garcharorion.

Ym mis Medi y llynedd penderfynodd y Gweinidog Cyfiawnder, Maria Eagle, nad oedd hen safle ffatri Dynamex ger Caernarfon yn addas.

Ar y pryd dywedodd fod y llywodraeth hefyd yn ystyried safleoedd yn Llundain, gogledd-orllewin Lloegr a gorllewin Sir Efrog.

'Siomedig'

Y safle ger Caernarfon oedd hen ffatri Ferodo ac fe fyddai'r safle wedi creu 700 o swyddi.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod angen safle yn y gogledd ar gyfer hyd at 800 o droseddwyr sy'n cael eu carcharu dros y ffin.

Dywedodd Aled Roberts, arweinydd Cyngor Wrecsam: "Mi fyddai carchar newydd yn golygu swyddi tymor hir ar gyfer ein cymunedau.

"Roedd y chwe chyngor o blaid y cynnig gwreiddiol ar gyfer Caernarfon ac yn siomedig pan ddaeth y prosiect i ben.

"Mi oedd yn golygu buddsoddi mewn gwasanethau cyhoeddus a swyddi."



HEFYD
Carchar yn werth 17m i'r economi
06 Chwef 09 |  Newyddion
Carchar newydd i Gaernarfon
05 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific