British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Chwefror 2010, 17:09 GMT
Methadon yn llaeth y babi: Carchar

Methadon
Barnwr: Yn rhy gynnar i ddweud a oedd yna ddifrod parhaol i ymennydd y babi

Mae mam 30 oed o Gaernarfon wedi ei charcharu am dair blynedd am roi methadon yn y llaeth yr oedd hi'n ei roi i'w babi wyth mis oed.

Yn Llys y Goron Caernarfon fe gafodd Nia Wyn Jones o'r Glyn yng Nghaernarfon ei charcharu.

Fe ddywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC wrthi y gallai fod wedi lladd ei babi. Roedd y babi wedi ei gymryd ers pan gafodd ei geni ym mis Mehefin.

Fe nododd hefyd ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud a oedd yna ddifrod parhaol i ymennydd y babi ac na fyddai hynny'n wybyddus tan y byddai'n hŷn.

Clywodd y llys fod y fam wedi bod yn cynyddu faint o heroin yr oedd y babi'n cael yn ei photel - ac erbyn y diwedd roedd y ferch yn cael yr hyn oedd yn cyfateb i fag cyfan o'r cyffur.

Lliw od

Ar Noswyl Nadolig y llynedd fe aethpwyd â'r babi i'r ysbty lle oedd y nyrsys yn poeni bod y fam yn defnyddio cyffuriau.

Roedd lliw od ar botel laeth y babi.

Fe ddangosodd prawf gwaed ar y babi fod lefel wenwynol o'r cyffur methadon yn ei gwaed.

Roedd y fam wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd hi'n cael y cyffur ar bresgripsiwn a'i bod hi wedi ei gymryd tra oedd yn feichiog.

Dywedodd yr amddiffyn ei bod hi wedi ymddwyn yn y fath fodd oherwydd effaith cymryd y cyffur - ac roedd hi'n difaru oherwydd yr hyn ddigwyddodd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific