British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Chwefror 2010, 11:59 GMT
Gyrrwr yn dweud iddo deimlo'n sl 'ar l gweld UFO'

Adrodduad UFO yr Archif Genedlaethol
Mae'r dogfennau ar gael ar wefan yr Archif Genedlaethol

Fe wnaeth gyrrwr honni iddo deimlo yn sâl ar ôl i olau amgylchynnu ei gar yng Nglyn Ebwy, yn ôl dogfennau gafodd eu rhyddhau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am UFOs.

Yn ôl adroddiad y dyn i'r heddlu disgrifiodd bod y golau wedi amgylchynu'r car am 10.40pm ar Ionawr 27 yn 1997.

Wedi'r digwyddiad eglurodd iddo deimlo'n sâl.

Mae'r hanes yn rhan un sydd i'w cael mewn dros 6,000 o dudalennau gafodd eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Iau.

Mae'r dogfennau yn ymwneud â phrofiadau pobl ar draws Prydain yn ystod ail hanner y 1990au.

'Seren enfawr'

Does 'na ddim manylion am y dyn ond mae adroddiad yr heddlu yn nodi ei fod o ardal Casnewydd.

Mae'n honni i'r golau amgylchynu'r car am bum munud a'i fod yn teithio tuag ato o gyfeiriad y gogledd ddwyrain.

Yn ystod y cyfnod yma doedd radio'r car na'i ffin symudol yn gweithio.

"Roedd yn teimlo yn sâl ac fe fu'n sâl," meddai'r adroddiad.

"Mae o wedi datblygu cyflwr ar y croen ac rydym wedi ei gynghori i weld meddyg."

Mae'r adroddiad yn dweud bod y dyn yn disgrifio'r profiad fel gweld "seren enfawr" yn symud tuag at ei gar.

"Fe wnes i stopio'r car a diffodd y golau ac roedd y golau yn amgylchynu'r car, ac roedd yno am tua phum munud.

"Llwyddais i gerdded drwy'r golau llachar, doedd 'na ddim sain, dim awyren na hofrennydd ac roeddwn yn teimlo yn sal ac yn ofnus."

Mae'r adroddiad yn nodi bod llwch ar gar y dyn.

Ymhlith lleoliadau eraill y mae Clwb Pêl-droed Chelsea a chartref y cyn-Ysgrifennydd Cartref Michael Howard yng Nghaint.

Mae'r dogfennau yn rhan o brosiect tair blynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Archif Cenedlaethol i gyhoeddi manylion UFOs.



HEFYD
Taflu golau ar ddirgelwch yr UFO?
01 Ion 08 |  Newyddion
'Rhywbeth rhyfedd yn yr awyr'
20 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific