British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 13 Chwefror 2010, 11:42 GMT
'100 yn colli swyddi,' medd undeb

IBERS, Aberystwyth

Dywedodd undeb fod mwy na 100 o swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Aberystwyth nid 70.

Mae Undeb y Colegau a Phrifysgolion wedi dweud eu bod yn ystyried camau cyfreithiol oherwydd dylai'r cyfnod ymgynghori fod yn 90 diwrnod yn lle 30 diwrnod.

Roedd y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi dweud yr wythnos ddiwethaf ei fod yn wynebu diffyg ariannol o £2.4m.

Ddydd Gwener fe ddywedodd Cyngor y Brifysgol eu bod yn cefnogi'r bwriad i ailstrwythuro.

Ddim ar chwarae bach

Wythnos yn ôl daeth y cyhoeddiad fod 70 o swyddi dan fygythiad yn y sefydliad ond mae'r undeb wedi dweud fod y cyfanswm go iawn yn fwy na 100 ac felly fod dyletswydd gyfreithiol ar y brifysgol i ymgynghori gyda'i staff am 90 diwrnod.

Dywedodd Margaret Phelan o'r undeb: "Dyw'r undeb ddim yn bygwth camau cyfreithiol ar chwarae bach.

"Fyddai'n well gennym weithio mewn partneriaeth er mwyn achub cymaint o swyddi ag sy'n bosib.

"Ond mae'r brifysgol wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa amhosib ac, wrth weithredu yn y modd yma, maen nhw'n gadael eu hunain yn agored i her gyfreithiol.

"Rydym wedi gofyn am union rif yr unigolion fydd o dan fygythiad ... ac mae'r brifysgol wedi gwrthod ateb y cwestiwn syml hwn hyd yn oed.

"Os yw'r nifer yn llai na 100, pam na wnawn nhw ddweud hynny?"

Nid dadl gyfreithiol dechnegol oedd hon, meddai, ond mater o fywoliaeth mwy na 100 o bobl a'u teuluoedd.

'Gweithredu'

Dywedodd Cyngor y Brifysgol: "Rydyn ni'n cydnabod bod y sefydliad yn wynebu diffyg ariannol sylweddol sy'n gofyn am weithredu di-oed ... fel y gall fod yn gynaliadwy ac yn sefydliad o'r radd flaena yn y byd.

"Felly rydyn ni wedi penderfynu ymateb i'r sefyllfa ariannol ac fe fydd ymgynghori llawn â'r staff a'r undebau, ymgynghori fydd yn unol â gofynion cyfreithiol.

"Y nod yw ailstwrythuro cyn gynted â phosib drwy gyfrwng mesurau gwirfoddol.

"Serch hynny, rydyn ni'n derbyn y gallai rhai diswyddiadau gorfodol fod yn angenrheidiol."

Mae tua 300 yn cael eu cyflogi yn y sefydliad yn Aberystwyth.



HEFYD
Colli hyd at 70 o swyddi ymchwil
05 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific