Bwriad cwmni Go Ape yw gsod pump o wifrau sip ar Moel Famau
|
Mae rhai sy'n erbyn bwriad i godi cwrs gwifren sip mewn coedwig wedi dweud bod y lleoliad yn anaddas. Dywed cwmni Go Ape eu bod am godi rhwydwaith o wifrau mewn coedlan ym Mharc Gwledig Moel Famau, Sir Ddinbych. Bydd defnyddwyr yn clipio'u hunain ar y gwifrau ac yn gwibio drwy'r coed. Ond dywed gwrthwynebwyr y bydd y cynllun yn golygu gormod o draffig a sŵn yn y goedwig sy mewn Ardal Harddwch Naturiol Neilltuol. Mae Moel Famau yn cael ei reoli gan Wasanaethau Gwledig Sir Ddibych. Rhwydwaith o wifrau Ar hyn o bryd mae gan Go Ape gwrs rhwystrau yn y parc lle mae cyfres o dwneli, pontydd ac ysgolion o bren, rhaffau a gwifrau. Er nad ydyn nhw wedi cyflwyno cais cynllunio i'r awdurdod lleol hyd yma, mae eu cynllun newydd wedi'i amlinellu ar eu gwefan.
 |
Dyw'r syniad o gael canolfan chwaraeon adrenalin fel hyn ddim yn ymddangos yn addas i Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuo
|
Dywedodd y cwmni y byddai Cwrs Zip Wild yn rhwydwaith o wifrau lle byddai defnyddwyr yn gwibio drwy'r goedwig uwchben y ddaear. Maen nhw wedi amcangyfri y byddai'n denu hyd at 60 o geir ychwanegol, ac yn bwriadu ychwanegu 80 o lefydd parcio at faes parcio'r parc gwledig. Ond mae pobl leol wedi dweud bod y ffordd sy'n arwain at y safle yn rhy gul a phrysur. 'Rhy brysur'Dywedodd Nigel Shillito, meddyg teulu sy'n byw ar y ffordd gyda'i deulu, ei fod am ffurfio mudiad i wrthwynebu unrhyw gynllun. "Mae yna broblemau eisoes gyda'r ffordd," meddai. "Bu sawl damwain arni eisoes sydd a wnelo nhw ddim â Go Ape, dim ond am ei bod hi'n ffordd mor brysur. "Mae dau gar wedi troi drosodd o flaen fy nghartre yn ystod y pum mlynedd ddiwetha. "Rydym hefyd yn credu fod y parc yn lle hardd a thawel. Dyw'r syniad o gael canolfan chwaraeon adrenalin fel hyn ddim yn ymddangos yn addas i Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol." Swyddi
Bwriad Go Ape yw codi rhwydwaith o bump gwifren zip drwy'r coed
|
Yn y cyfamser, dywedodd Go Ape y byddai'r cynllun yn dod â swyddi i'r ardal. Dywedodd y rheolwr datblygu busnes, Ben Davies: "Mae'n ddyddiau cynnar wrth feddwl creu Cwrs Zip Wild ym Mharc Gwledig Moel Famau. "Fel rhan o'r broses, rydym wedi siarad ag unigolion a mudiadau sy â diddordeb yn y mater ac yn ceisio ateb unrhyw bryderon cyn cyflwyno'n cais cynllunio."
|