British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Chwefror 2010, 12:12 GMT
Diwrnod am ddim yn 'Steddfod Blaenau Gwent

Arwydd Eisteddfod Blaenau Gwent
Bydd dydd Sul yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim i annog ymwelwyr

Fe fydd mynediad am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol am ddiwrnod eleni.

Dwy flynedd yn ôl roedd 'na dipyn o stŵr pan wnaeth yr Eisteddfod gyhoeddi y byddai rhaid i bobl dalu er mwyn cael mynediad i'r Maes ar ddydd Sul.

Ond cafwyd cyfaddawd - y rhai oedd yn mynd i'r Oedfa yn unig yn cael mynediad am ddim.

Ond fe fydd y sefyllfa yn newid ar gyfer y Brifwyl ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhoi swm o arian i'r Eisteddfod fydd yn golygu mynediad am ddim ar y Sul.

"Ni fel Llywodraeth sy'n rhoi arian i'r Eisteddfod a fydd yn eu digolledu am yr hyn y bydden nhw wedi ei wneud ar y giât," meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru.

Cenhadu

"Wedi trafodaeth gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Eisteddfod mae'r arian ychwanegol yn cael ei roi nid fel ewyllys da ond i annog mwy o bobl yr ardal i ymweld â'r Maes a chael blas ar y diwylliant.

"Mae'r dydd Sul yn ddiwrnod i'r teulu a gobeithio y bydd 'na ddigon o fwrlwm ar y Maes fel bod pobl yn dweud wrth eu teulu a ffrindiau ac y byddan nhw'n dychwelyd ar ddiwrnod arall."

Alun Ffred Jones
Mae'n bwysig cenhadu a denu pobl i'r Brifwyl
Alun Ffred Jones AC

Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Y Cynulliad

Dywedodd fod yr Eisteddfod eleni mewn ardal "wedi ei Seisnigo'n arw".

"Mae 'na frwdfrydedd amlwg yn yr ardal.

"Does 'na ddim traddodiad Eisteddfodol cryf yn yr ardal ac, yn sicr, o ran y Gymraeg mae hi wedi edwino - er bod 'na ysgol Gymraeg wedi tyfu yn yr ardal."

Ond fe ddywedodd nad oedd 'na addewid y byddai hyn yn digwydd yn y dyfodol.

"Mae'r arian yma, tua £25,000, yn ychwanegol i'r hyn mae'r Eisteddfod yn ei gael yn flynyddol er mwyn denu pobl i'r Brifwyl yma.

"Mae sefyllfa pob Eisteddfod yn wahanol.

"Rydym hefyd fel Llywodraeth wedi rhoi sicrwydd i'r gronfa leol y bydd arian ar gael, eto oherwydd natur yr elfen leol."




Tudur Hallam Cadair Tudur
Tudur Hallam enillodd Gadair y Brifwyl

GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific