British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Chwefror 2010, 07:56 GMT
Bygythiad i lyfrgelloedd bach Sir Gār

Llyfrau ar silffoedd
Prin iawn o bobl sy'n defnyddio rhai o'r llyfrgelloedd bob wythnos

Mae chwech o lyfrgelloedd bach Sir Gaerfyrddin yn wynebu cau wrth i'r cyngor chwilio am ffyrdd i arbed arian.

Dydi llyfrgelloedd Talacharn, Felinfoel, Hendy, Llandybie, Glanaman a Phenygroes ddim ar agor yn llawn amser eisoes.

Y bwriad yw cyflwyno gwasanaeth symudol yn eu lle.

Yn ôl pennaeth llyfrgelloedd y cyngor mae hi'n fwy na phosib y bydd 'na gwtogi pellach dros y blynyddoedd nesaf.

Cafodd grŵp arbennig ei sefydlu gan y cyngor i edrych ar boblogrwydd llyfrgelloedd cymunedol.

Maen nhw wedi cyflwyno argymhellion ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth.

Roedd y grŵp o gynghorwyr o'r farn bod y chwe llyfrgell dan sylw yn "tanberfformio", neu yn rhy agos at ganghennau eraill.

Ffigyrau

Yr argymhelliad felly yw cau'r llyfrgelloedd yma.

"Nifer prin iawn o bobl sy'n eu defnyddio ar gyfartaledd," meddai Dewi Thomas, Rheolwr Llyfrgelloedd a Threftadaeth Cyngor Sir Caerfyrddin.

"Rhwng 2 a 4 o bobl yr awr sy'n eu defnyddio ar gyfartaledd, sy'n nifer isel iawn o gymharu â llyfrgelloedd eraill.

Dwi'n ofni na fydd 'na fuddsoddiad i wasanaeth llyfrgell yn y dyfodol agos
Dewi Thomas, Rheolwr Llyfrgelloedd a Threftadaeth Cyngor Sir Caerfyrddin

"Rhwng 4 a 8 llyfr wedyn sy'n cael eu benthyca ar gyfartaledd.

"Gwasanaeth llyfrgell deithiol fydd 'na wedyn gydag ymweliad pob pythefnos yn lle'r gangen yn yr ardaloedd yma."

Dywedodd y bydd y cyngor sir yn gwerthu neu yn ailgyfeirio'r adeiladau at ddefnydd lleol.

Fydd 'na ddim staff yn colli swyddi.

Eglurodd Mr Thomas y bydd y staff yn gweithio yn y prif lyfrgelloedd.

£34,000 y flwyddyn y bydd y cyngor yn ei arbed o gyflwyno'r newid.

"Roeddem wedi gweld y broblem o'r arolwg a daw'r newid yn sgil hwnnw sydd hefyd yn cyd-fynd gyda'r agenda i arbed arian," ychwanegodd Mr Thomas.

"Dwi'n ofni na fydd 'na fuddsoddiad i wasanaeth llyfrgell yn y dyfodol agos."

Fe fydd y cynnig i gau'r chwe llyfrgell yn cael ei ystyried gan y cyngor llawn ar Chwefror 23, pan fydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn cael ei thrafod.



HEFYD
Pennod newydd i fan llyfrgell
07 Rhag 09 |  Newyddion
Bygwth cau chwe llyfrgell
29 Ebr 07 |  Newyddion
Ailystyried cau llyfrgelloedd
03 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific