British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010, 11:16 GMT
200 o swyddi newydd ar hen safle

Safle ffatri Fillcare ger Llantrisant
Y bwriad yw creu bron i 200 o swyddi newydd dros y pedair blynedd nesaf

Mae cwmni o Ffrainc a brynodd hen safle ffatri L'Oreal ger Llantrisant yn dweud y bydd yn creu bron 200 o swyddi newydd drwy fuddsoddi £7 miliwn.

Fe wnaeth cwmni Fillcare gymryd perchnogaeth o'r safle yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, yn yr haf gan gadw 66 o staff.

Fe gollwyd tua 200 o swyddi yno yn 2008 pan ddywedodd y cwmni sy'n cynhyrchu shampŵ a deunyddiau steilio gwallt eu bod yn symud eu huned gynhyrchu dramor.

Mae'r buddsoddiad mewn offer newydd a llinell gynhyrchu newydd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad.

Fel o'r blaen mae'r cwmni'n cynhyrchu shampŵ a deunyddiau steilio gwallt.

Y perchnogion yw Fareva Holding a hwn yw unig safle'r grŵp yn y pedair gwlad.

Rydym eisoes wedi ennill archebion newydd sy'n darparu ar gyfer enwau sefydlog y farchnad
Thomas Jacquemet, rheolwr gyfarwyddwr

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n ehangu cynhyrchu ar gyfer brandiau eraill.

Y bwriad yw creu'r swyddi newydd yn ystod y pedair blynedd nesaf ac fe fydd recriwtio'n dechrau yn yr hydref.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, ymweld â'r safle.

Dywedodd fod hon yn hwb arwyddocaol ar gyfer yr economi leol.

"Rydym wrth ein boddau cael cefnogi'r buddsoddiad fydd yn creu ystod o swyddi sy'n talu'n dda mewn ardal sydd wedi dioddef colledion gwaith yn ystod y dirwasgiad," meddai.

'Technoleg ddiweddara'

"Rwy'n gwybod fod Fillcare yn awyddus i ddatblygu cadwyn gyflenwi leol â'r potensial i ddod â buddion ychwanegol i'r economi."

Mae'r ehangu yn golygu tair lein gynhyrchu newydd.

Fe dalodd y rheolwr gyfarwyddwr Thomas Jacquemet deyrnged i'r 73 o wethwyr.

"Rydym eisoes wedi ennill archebion newydd sy'n darparu ar gyfer enwau sefydlog y farchnad ac mae gennym y fantais o allu cynnig y dechnoleg ddiweddaraf," meddai.

Dywedodd fod cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad a'r cyngor sir yn hollbwysig.

Mae'r prif gwmni Fareva yn cyflogi 5,000 o bobl mewn 28 o safleoedd cynhyrchu yn Ewrop a Thwrci.



HEFYD
200 o swyddi'n diflannu
24 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific