British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010, 07:15 GMT
Deiseb i warchod adar ysglyfaethus

Hebog Tramor (llun RSPB / D Bromley)
Hebog tramoryn cael ei achub o drap

Caiff deiseb gyda 11,000 o enwau arni ei chyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad yn galw am ddod â diwedd i ladd adar ysglyfaethus.

Fe fydd y ddeiseb, y mwyaf gan Gymdeithas Gwarchod Adar Cymru, RSPB Cymru, yn rhan o ymgyrch drwy wledydd Prydain sydd wedi casglu dros 200,000 o enwau.

Yn ystod 2008 cafodd 35 o adar, gan gynnwys y boncath, hebog tramor a'r barcud coch, eu saethu, eu gwenwyno neu eu dal yng Nghymru.

"Rydym yn falch iawn ac wedi ein hysbrydoli gan yr ymateb i'r ymgyrch yma," meddai Dr Sean Christian o'r elusen gwarchod adar.

Dywed yr RSPB fod y bu bron i adar ysglyfaethus ddiflannu yn llwyr ar un adeg wrth iddynt gael eu herlyn neu eu gwenwyno gan gemegau amaethyddol.

Ond yn ddiweddar cafwyd cynnydd yn y niferoedd yn sgil deddf i'w gwarchod a gwaith cadwraethwyr.

Saethu a gwenwyn

Yn ôl yr RSPB cafodd dros 200 o adar ysglyfaethus eu lladd yng ngwledydd Prydain yn 2008.

Dywedodd yr elusen hefyd bod gweithgaredd anghyfreithlon yn dal yn fygythiad gwirioneddol.

"Yn ôl ffigyrau'r achosion mwya cyffredin o ladd adar o'r fath yng Nghymru ydi saethu," meddai llefarydd ar ran yr elusen.

"Mae dinistrio nythod hefyd yn broblem gyffredin.

"Mae 'na adroddiadau hefyd bod gwenwyn yn cael ei ddefnyddio.

"Mae angen deddf gynhwysfawr i warchod yr adar ac i atal lladd anghyfreithlon."

Yng Nghymru mae 'na ddau swyddog troseddau bywyd gwyll yn gweithio ar ymlyniad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ond mae'r RSPB yn galw am adolygu'r modd y mae troseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn cael ei drin gan yr heddlu a'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae adolygiad tebyg eisoes wedi digwydd yn Yr Alban.

"Mae'r ffaith bod cymaint o bobl o blaid gweld deddf gryfach yn rhoi hwb aruthrol i ni," meddai Dr Christian.

"Maen nhw fel ni wedi eu cywilyddio bod adar ysglyfaethus yn cael eu lladd yng nghefn gwlad."

Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog Materion Gwledig Cymru, bod 'na gamau sylweddol wedi eu gwneud i leihau troseddau bywyd gwyllt dros y blynyddoedd diweddar.

Ond fe wnaeth gyfadde bod 'na waith sylweddol i'w wneud o hyd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific