British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Chwefror 2010, 13:52 GMT
Iawndal i gynhyrchwyr llaeth

llefrith
Cafodd litrau o laeth ei wastraffu oherwydd nad oedd modd ei gasglu yn y tywydd oer

Mae cynhyrchwyr llaeth ac aelodau o First Milk wedi cael newyddion da wrth i'r cwmni gyhoeddi y bydd yn talu am y llaeth y methwyd ei gasglu oherwydd y tywydd ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Fe fydd y cwmni yn talu am yr hyn sy'n cyfateb i'r llaeth gafodd ei gasglu dros yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Mae First Milk yn rhybuddio na fyddan nhw'n talu eto.

Maen nhw'n dweud y dylai cynhyrchwyr wneud trefniadau yswiriant i'w diogelu yn y dyfodol.

Dywedodd y cwmni mai ffermwyr yng ngorllewin Cymru ac yn sir Ayr yn Yr Alban sydd wedi diodde waetha.

"Dwi'n croesawu'r ffaith bod y ffermwyr confensiynol yn cael tal am y llaeth sydd wedi ei golli," meddai Brian Walters un o is-lywyddion Undeb Amaethwyr Cymru ac aelod o First Milk.

Yswiriant

"Ond fydd y ffermwyr organig ar hyn o bryd ddim yn mynd i gael taliad ar hyn o bryd, sy'n siomedig iawn i mi sy'n cynhyrchu llaeth organig.

"Bydd rhaid cael mwy o drafodaeth ar hyn.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bryd i ni ystyried cymryd yswiriant rhag ofn colledion yn y dyfodol.

"Mae antibiotics a dŵr yn y llaeth yn dod o dan First Milk eisoes ond maen nhw'n awyddus ein bod ni'n cymryd yswiriant oherwydd eira neu ddiffyg casglu cynnyrch."

Ychwanegodd Mr Walters mai eithriadau ydi'r achosion pan mae'n rhaid taflu cymaint o gynnyrch.

"Fe fu rhaid i mi daflu llaeth ym mis Chwefror 2005, ond ddim cymaint â nawr," ychwanegodd.

"Efallai bod rhaid i ni ystyried tanciau ychwanegol i gadw stoc mewn achosion o'r fath."

Dywed cynhyrchwyr llaeth Dairy Crest yng ngorllewin Cymru eu bod yn dal i wynebu ansicrwydd a fyddan nhw'n cael iawndal a'i pheidio.

Yn ôl cynhyrchwyr roedd y cwmni wedi addo y byddan nhw'n cael iawndal ond dydyn nhw ddim wedi cael cadarnhad.

Mewn rhai achosion roedd y ffyrdd yn glir mewn rhai llefydd ond doedd y lori ddim wedi cyrraedd.

Mae Dairy Crest wedi gofyn am fanylion.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific