British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010, 18:52 GMT
Ymchwiliad wedi honiadau amharchus at geiswyr lloches

Louise Perrett
Bu Louise Perrett yn gweithio yn y swyddfa am dri mis

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn galw am ymchwiliad i honiadau bod staff yr Asiantaeth Ffiniau yn ymddwyn yn amharchus tuag at bobl sy'n ceisio'r hawl i aros ym Mhrydain.

Myfyrwraig o Brifysgol Bryste, Louise Perrett, 29 oed, sydd wedi gwneud yr honiadau hynny ar ôl treulio tri mis yn gweithio yn swyddfa'r Asiantaeth yng Nghaerdydd.

Yn ôl Ms Perrett, dreuliodd gyfnod yn y swyddfa yn ystod yr haf, roedd un o'r gweithwyr wedi dweud wrthi ar y cychwyn y "byddai'n hoffi mynd a'r ceiswyr lloches allan a'u saethu".

Mae Ms Perrett hefyd yn dweud bod dynes o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi cael ei thrin yn wael ac roedd un o'r gweithwyr wedi cwyno wrth reolwyr pan gafodd honno'r hawl i aros ym Mhrydain.

Er ei bod wedi codi'i phryderon am ymddygiad rhai o'r staff, dywed Ms Perrett fod rheolwyr wedi chwerthin pan wnaeth hi hynny a dweud bod ei hagwedd yn "rhyddfrydig".

'Synnu'

Ond wrth ymateb mewn datganiad, mae'r Asiantaeth Ffiniau wedi dweud eu bod yn disgwyl yr ymddygiad gorau gan holl aelodau'r staff.

Maen nhw hefyd yn dweud nad oedd yr unigolyn dan sylw - sef Ms Perrett - wedi codi'r materion yma â nhw o gwbwl.

Swyddfa Asiantaeth Ffiniau yng Nghaerdydd
Dywed yr asiantaeth eu bod yn disgwyl yr ymddygiad gorau

Mae'r datganiad yn dweud bod pob cais am loches yn cael ei ystyried yn ôl ei werth.

"Os bydd cais yn cael ei wrthod, yna mi fydd hawl gan y ceisiwr, gan amlaf, i apelio i'r Tribiwnlys Mewnfudo," ychwanegodd.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru nawr yn galw am ymchwiliad i honiadau Ms Perrett.

"Mae'r berthynas wedi gwella ers i'r Asiantaeth Ffiniau fynd yn gorff rhanbarthol." meddai Hawar Ameen, swyddog digwyddiadau polisi Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

"Rydan ni wedi'n synnu efo'r honiadau, ac mi fydden ni'n croesawu unrhyw ymchwiliad i'r honiadau difrifol sy'n cael eu gwneud."

Mae Cadeirydd Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ar faterion cartref, Keith Vaz, hefyd wedi galw am ymchwiliad.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific