British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010, 14:11 GMT
Archwilydd Cyffredinol yn gadael

Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol
Jeremy Colman: Wedi ymddiswyddo

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman wedi ymddiswyddo.

Swyddfa'r Archwilydd sy'n gyfrifol am warchod gwerth am arian mwy na £20 biliwn o arian cyhoeddus.

Dyw Mr Colman, sy wedi bod yn y swydd ers 2005, heb roi rheswm.

Bydd olynydd yn cael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl derbyn sêl bendith y frenhines.

Cafodd Mr Colman ei benodi i'w swydd yn 2005 am gyfnod o bum mlynedd, ond cafodd hynny ei estyn am dair blynedd bellach ym Mai 2009.

Mae'n debyg y bydd penodiad dros dro yn cael ei wneud, gan fydd y broses o ddewis olynydd parhaol yn cymryd rhai misoedd.

Gwendidau

Bydd yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol cyn penodi.

Ym mis Hydref 2009 fe wnaeth arolwg swyddogol sôn am nifer o wendidau yn "strwythur ac arweinyddiaeth" y Swyddfa Archwilio.

Yn ôl arolwg panel annibynnol, roedd 'na ddryswch ymhlith staff a thyndra rhwng rhai uwch-reolwyr.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ddweud fod gwaith y Swyddfa o "safon uchel" ac ar y cyfan bod y Swyddfa yn "gyflogwr bendigedig."

Ar y pryd dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman fod gwelliannau eisoes ar y gweill.

Mae'r Swyddfa Archwilio yn cyflogi 280 o staff.



HEFYD
Corff gwarchod: 'Nifer o wallau'
08 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific