Dim ond 6% o'r arian ymchwil meddygol sy'n mynd tuag at ddysgu am ddementia
|
Mae 'na alw am wario rhagor o arian ar ymchwil sy'n ymwneud â dementia. Mae Ymddiriedolaeth Ymchwil Alzheimer yn dweud fod gan 39,000 o bobl Cymru dementia o ryw fath. Mae'r adroddiad yn ystyried sut mae gwariant ar ddementia yn cymharu â chyflyrau eraill fel canser. Mae'n dangos bod y gost o ddelio gyda chyflwr fel Alzheimer bedair gwaith yn fwy. Ond er hynny, dim ond 6% o'r arian ymchwil meddygol sy'n mynd tuag at ddysgu am ddementia. Mae hynny'n rhwystro ymdrechion i helpu miloedd o bobl, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Ymchwil. Ond mae gwasanaethau i gleifion hefyd dan bwysau.
Mae'r grŵp yng Nghaerdydd yn cynnig cefnogaeth
|
Mae prosiect gafodd ei sefydlu gydag arian y Loteri i helpu cleifion yn eu 50au a'u 60au yn wynebu dod i ben ddiwedd mis Mawrth. Mae Ymddiriedolaeth Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi penderfynu peidio ariannu'r gwasanaeth. Ond maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau yn y dyfodol. "Rydym yn deall pa mor werthfawr ydi'r gwaith sydd wedi cael ei wneud ac rwy' eisiau cadarnhau ein haddewid i weithio gyda'r gymdeithas i ddatblygu gwasanaethau a chefnogaeth i'r dyfodol," meddai Kate Norton o'r ymddiriedolaeth. Dywedodd Alison Holmes ei bod hi a'i thad, Alun Furst, 66 oed, wedi eu siomi gan y penderfyniad. 'Edrych ymlaen' Cafodd Mr Furst wybod ei fod yn dioddef o'r afiechyd yn 57 oed. Eglurodd Mrs Holmes bod gwaith y cynllun yn "amhrisiadwy". "Mae'n helpu dad i gadw'n iach, i fynd allan ac i gymdeithasu," meddai. "Dwi wedi fy siomi, dwi wedi siarad efo dad ac mae o wedi ei siomi. "Roedd o'n edrych ymlaen at ymweliad y cyfaill gwirfoddol. "Maen nhw'n mynd allan, yn cerdded ac yn chwerthin efo'i gilydd. "Dydi'r math yma o wasanaeth ddim ar gael yn unlle arall. "Mae 'na wahaniaeth sylweddol o ran ei gymeriad ers iddo gael y cwmni." Ychwanegodd Karen Collins, swyddog datblygu gyda Chymdeithas Alzheimer's, y byddai'n drist iawn petai'r prosiect yn dod i ben. "Rydym mewn cysylltiad â thua 50 o deuluoedd rŵan ac yn rhan allweddol o'u bywydau ac allwn ni ddim cerdded i ffwrdd rŵan. "Does 'na ddim i'w gynnig yn ei le." Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Loteri Fawr mai ariannu cynlluniau presennol gydag elfennau newydd y byddan nhw. "Rydym efallai yn cefnogi nifer o geisiadau sy'n ceisio gweithio mewn ardaloedd daearyddol newydd a fydd yn gweithio gyda grwpiau newydd a phobl newydd er mwyn cynnig gwasanaethau neu weithgareddau newydd sy'n ychwanegu at ein gwaith presennol."
|