British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010, 15:02 GMT
Carchar: Ystyriaeth i safle

Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon
Penderfynwyd nad oedd oedd hen safle ffatri Ferodo yng Nghaernarfon yn addas

Mae cyngor Gwynedd am drafod cynigion ar gyfer safle carchar newydd wedi i leoliad blaenorol gael ei wrthod.

Cyn wersyll y Fyddin yn Nhonfannau, ger Tywyn, sydd o dan "ystyriaeth ddifrifol" gan yr awdurdod lleol.

Penderfynwyd fis Medi 2009 nad oedd hen safle ffatri Ferodo yng Nghaernarfon yn addas gan lywodraeth y DU.

Ar y pryd barnwyd y gallai 700 o swyddi gael eu creu.

Yn y gorffennol mae Maria Eagle, y Gweinidog dros Garchardai wedi dweud bod safleoedd yng ngogledd Cymru, Llundain, y gogledd orllewin a gorllewin Swydd Efrog o dan ystyriaeth.

Dywedodd mai'r ardaloedd o dan ystyriaeth oedd y rheiny lle'r oedd y "nifer mwyaf o garcharorion yn dod ohonynt".

Pwyllgor Craffu

Fe bleidleisiodd cynghorwyr Gwynedd y mis diwethaf i dderbyn y cynnig i ystyried Tonfannau ar gyfer safle'r carchar newydd.

Bydd Pwyllgor Craffu'r cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod y cynnig ymhellach.

Disgwylir i restr fer o safleoedd potensial gael eu cyhoeddi unwaith i'r cynigion gael eu cyflwyno.

Llynedd roedd y rhestr fer yng Nghymru'n cynnwys canolfan hyfforddi'r heddlu yng Nghwmbrân, tir llwyd i'r dwyrain o Ferthyr a chyn safle Firestone yn Wrecsam, cyn i'r cyngor ddewis safle Ferodo yng Nghaernarfon yn y diwedd.



HEFYD
Safle carchar: 'Dim diddordeb'
22 Medi 09 |  Newyddion
Carchar yn werth £17m i'r economi
06 Chwef 09 |  Newyddion
Carchar newydd i Gaernarfon
05 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific