British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010, 13:43 GMT
Penri yw cofiadur yr Orsedd

Penri Roberts ar  lwyfan y Brifwyl
Penri Roberts ar lwyfan y Brifwyl

Cyhoeddwyd mai'r Prifardd Penri Tanat (Penri Roberts) yw Cofiadur newydd Gorsedd y Beirdd.

Mae'n olynu 'r Prifardd John Gwilym.

Y Cofiadur yw Ysgrifennydd Gorsedd y Beirdd a'i gyfrifoldeb yw arolygu gweithgareddau'r Orsedd.

Ei gyfrifoldeb cyntaf fydd paratoi ar gyfer Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar Orffennaf 3.

"Mae gan Orsedd y Beirdd rôl bwysig i'w chwarae yn natblygiad yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae'r ffaith fy mod i fel Cofiadur a'r Archdderwydd, Jim Parc Nest, yn cychwyn ar ein gwaith ar yr un adeg, yn gyffrous ac yn gyfle i ddatblygu Gorsedd y Beirdd ymhellach ar ddechrau degawd newydd," meddai.

Enillodd Penri Roberts y Goron yn Eisteddfod Dinbych 2001 am ddilyniant o gerddi yn dweud hanes plentyn yn gorfod dygymod â rhieni anghytûn.

Cafodd ei eni a'i fagu ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac yna ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin a Choleg y Drindod Caerfyrddin.

Bu'n athro a phrifathro yn Ysgol Hafren Y Drenewydd, cyn ei benodi'n brifathro ar Ysgol Gymraeg Dafydd Llwyd.

Mae'n un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, ac ef a gymerodd ran Y Mab Darogan yn eu sioe gyntaf o'r un enw adeg Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.

Yn yr un cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, cafodd enw'r Prifardd Jim Parc Nest (T. James Jones) ei gadarnhau fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd, i olynu'r Prifardd Dic yr Hendre (Dic Jones), a fu farw'r llynedd.



HEFYD
Archdderwydd: Cadarnhau
30 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific