Y bwriad yw agor canolfan bowlio deg a chynnal gwasanaethau crefyddol
|
Mae eglwys yn bwriadu agor canolfan bowlio deg mewn hen hufenfa er mwyn creu swyddi yn Sir Gaerfyrddin. Bydd rhan arall o hen ffatri gaws yn Nhre Ioan, ger Caerfyrddin, hefyd yn cael ei ddefnyddio fel addoldy i aelodau o eglwys gymunedol Towi. Nod yr eglwys yw llogi y safle 2.7 acr oddi wrth Cyngor Sir Caerfyrddin gan greu hyd at 20 o swyddi. Yn ôl y Gweinidog Mark Bennett mae angen i eglwysi ymwneud a'r gymuned leol. "Mae'n rhaid i eglwysi newid. Safle ailgylchu "Mae'n golygu cadw ein hegwyddorion ond cyfathrebu'n well gyda chymunedau yn y ganrif hon." Bwriad arall yr eglwys yw sefydlu canolfan ailgylchu dodrefn fyddai'n cyflenwi teuluoedd llai breintiedig, a chaffi gyda lle ar gyfer hyd at 50. Mae son hefyd am ganolfan cynadledda fyddai hefyd yn darparu ar gyfer pobl ifanc. Gwnaed cais am £800,000 o Gronfa Loteri Fawr. Y nod yw agor y ganolfan newydd rhywbryd rhwng gwanwyn a hydref 2011. "Y gobaith yw yw y bydd y ganolfan bowlio yn creu swyddi ag incwm, ac y gallwn ni fuddsoddi'r arian yn ôl yny gymuned. Dywedodd y cynghorydd Clive Scourfield, sydd â chyfrifoldeb am adfywio cymunedau ar Fwrdd y cyngor sir, fod y fenter yn un dewr. "Mae'r awdurdod helpu'r eglwys wrth iddynt geisio grantiau gan wahanol gyrff cyhoeddus."
|