British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Chwefror 2010, 07:20 GMT
Ailgylchu: 'Ystadegau camarweiniol'

Safleoedd tirlenwi (llyfrgell)
Erbyn diwedd mis Mawrth rhaid i gynghorau Cymru ailgylchu 40% o'u gwastraff

Mae ymgyrchydd wedi dweud bod cynghorau'n camarwain o ran faint o wastraff bioddiraddadwy sy'n cael ei gladdu yn y ddaear.

Dywedodd Mal Williams o fudiad Cylch ei fod wedi cwyno wrth y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn y cyfamser, mae ymchwil BBC Cymru yn dangos nad oes cofnod swyddogol o wastraff sy i fod i gael ei ailgylchu ond yn cyrraedd safleoedd tirlenwi.

Erbyn diwedd mis Mawrth rhaid i gynghorau Cymru ailgylchu 40% o'u gwastraff.

Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod contractwyr sy'n derbyn gwastraff oddi wrth gynghorau yn ei anfon at safleoedd tirlenwi - am fod y gwastraff wedi ei lygru gymaint.

Gan nad yw'r cynghorau yn cael gwybod am hyn nid oes cyfeiriad ato ym manylion cynghorau am faint o wastraff sy'n cael ei gladdu yn y ddaear.

Hygrededd

Dywedodd Mr Williams y gallai hyn effeithio ar hygrededd ystadegau, hynny yw a oedd cynghorau'n dilyn targedau Ewropeaidd neu beidio.

Roedd contractwyr, meddai, yn aml yn cwyno am ansawdd y gwastraff oddi wrth awdurdodau lleol ac roedd lefel y llygredd yn dibynnu ar ddulliau casglu.

Os oedd pob math o wastraff yn yr un bin, roedd mwy o risg o lygru.

Dywedodd Craig Robinson, Pennaeth Ailgylchu Melin Bapur UPM yn Shotton: "Hyd y gwn i, dyw cynghorau ddim yn rhoi gwybod i'r llywodraeth faint o lygredd sy yn y gwastraff.

"Mae'n bosib bod angen i'r ystadegau fod yn gliriach."

Eye on Wales, Radio Wales, nos Lun, 6.32pm



HEFYD
Llywodraeth: 'Perfformiad cymysg'
18 Rhag 09 |  Newyddion
Tirlenwi: Cyrraedd targedau
01 Medi 09 |  Newyddion
Ffatri i drin gwastraff bwyd?
14 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific