British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Chwefror 2010, 07:07 GMT
2.75m ar gyfer tyllau ffyrdd

Twll yn y ffordd
Cymdeithas Llywodraeth Leol: 'Difrod mawr' i ffyrdd yn y gaeaf

Fe fydd cynghorau Cymru'n derbyn £2.75m ychwanegol i drwsio tyllau yn y ffordd yn sgîl eira ac iâ'n ddiweddar.

Mae'r cynghorau wedi dweud eu bod yn wynebu cost o filiynau o bunnau.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'r swm ar wahân i'r grant o £5m ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd.

Ym mis Ionawr dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "difrod mawr" i ffyrdd yn ystod y gaeaf.

"Fe fydd cynghorau'n wynebu her enfawr - cost ychwanegol ar ben y pwysau ariannol cyffredinol," meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

Weithiau mae dŵr yn treiddio drwy graciau yn wyneb y ffordd.

'Annisgwyl'

Pan yw'r tymheredd yn gostwng mae'r dŵr yn rhewi, yn ehangu ac yn creu tyllau yn y ffordd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones: "Mi fydd yr arian yn helpu cynghorau i ddelio â phroblemau wedi amodau tywydd annisgwyl.

"Maen nhw wedi ennill tir wrth gynnal a chadw'r ffyrdd ac mi fydd hon yn hwb ychwanegol."

Dywedodd y gallai'r gwaith ddechrau ar unwaith.

Brys

Ychydig o ddiwrnodau'n ôl roedd angen atgyweirio brys am fod twll yn yr M4 ger Casnewydd.

Fe gafodd lôn i gyfeiriad y gorllewin rhwng Cyffordd 27 a Chyffordd 28 ei chau ddydd Gwener.

Ym mis Ebrill 2009 dywedodd Mudiad y Diwydiant Asffalt fod diogelwch gyrwyr Cymru mewn perygl oherwydd diffyg arian cynnal a chadw.

Fe fyddai angen 15 mlynedd, meddai, i drwsio'r 94,000 o dyllau yr oedden nhw'n gwybod amdanyn nhw.



HEFYD
Tyllau mewn ffyrdd wedi'r eira
17 Ion 10 |  Newyddion
Tyllau: Gyrwyr 'mewn perygl'
01 Mai 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific