British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Ionawr 2010, 10:36 GMT
57% ddim yn rhoi gwybod i'r heddlu

Alun Lewis
Alun Lewis: 'Rhaid cysylltu 'r heddlu'

Mae arolwg wedi awgrymu bod mwy na hanner dioddefwyr e-drosedd ddim yn rhoi gwybod i'r heddlu.

Awgrymodd arolwg Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru bod 57% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod i'w banciau a'u darparwyr cardiau credyd yn unig.

Dywedodd yr isgadeirydd Alun Lewis: "Roedden nhw'n credu na allai'r heddlu wneud llawer ..."

Yr amcangyfri yw bod e-drosedd yn y gogledd yn costio £294m y flwyddyn.

Roedd rhai cardiau neu fanylion cyfri banc yn cael eu gwerthu am 50c, meddai.

'Annifyr iawn'

"Mae bod yn ddioddefwr yn brofiad annifyr iawn ond rhaid cysylltu â'r heddlu fel y gallwn ni drefnu adnoddau.

"Y gwir yw bod y drosedd hon yn golygu dwyn o'ch cartre eich hun heb yn wybod i chi."

Dywedodd fod adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach yn awgrymu bod 54% o fusnesau wedi diodde oherwydd twyll neu drosedd ar-lein.

"Mae'n hollbwysig bod pobl yn ddigon hyderus i roi gwybod i'r heddlu."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Rydyn ni'n gwybod nad yw pob dioddefwr yn rhoi gwybod i'r heddlu.

'Cynyddu'

"Ers Chwefror 2009 rydyn ni'n gorfod rhoi manylion e-drosedd i Lywodraeth y Cynulliad ac mae'r nifer wedi cynyddu."

Mae'r Ditectif Gwnstabl John Cherry o Heddlu'r De wedi dweud: "Yn sicr, dyw pob dioddefwr ddim yn rhoi gwybod i ni.

"Yn y cyfamser, rydyn ni'n ceisio rhoi gwybod i fusnesau beth yw'r ffyrdd gorau o atal y drosedd."

Gofynnwyd i Heddlu Gwent am sylw.



HEFYD
Rhybudd rhag peryglon y we
21 Hyd 09 |  Newyddion
Cynhadledd i daclo e-drosedd
25 Ion 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific