British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Ionawr 2010, 09:18 GMT
Y rhai ddaeth i 'wlad yr addewid'

Ernesto Carpanini a theulu  Evola yn siop sglodion yn Aberystwyth (Llun gan  Atgofion Eidalwyr yng Nghymru)
Fe agorodd nifer o Eidalwyr gaffis a siopau sglodion

Agorodd arddangosfa sy'n olrhain bywydau Eidalwyr a ymfudodd i Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan dros y penwythnos.

Mae'n cynnwys lluniau a straeon personol am atgofion am fywyd yn yr Eidal ac am y profiad o ymfudo i wlad newydd.

Fe wnaeth y trefnwyr recordio mwy na 50 o gyfweliadau â Chymry o dras Eidalaidd ac Eidalwyr ar gyfer y casgliad.

Bydd yr arddangosfa yn yr amgueddfa tan Fai 3 cyn i'r deunydd gael ei gadw yn archifau Sain Ffagan ac Oriel Casnewydd fel adnodd ymchwil.

"Mae dylanwad yr Eidalwyr ar Gymru yn amlwg - caffis eiconig, siopau hufen iâ a ffigyrau cenedlaethol amlwg," meddai Owain Rhys, curadur casglu cyfoes Sain Ffagan.

Diweithdra uchel

"Bydd yr arddangosfa yn gyfle i ddysgu am un o gymunedau pwysicaf Cymru ac rydym yn falch o allu cadw'r dystiolaeth lafar yn Sain Ffagan er mwyn hyrwyddo a hwyluso mwy o ymchwil yn y dyfodol."

Diweithdra uchel a llywodraeth wan oedd rhai o'r ffactorau a arweiniodd at y don fawr gyntaf o fewnfudwyr o'r Eidal ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yn y casgliad mae nifer o luniau personol y teuluoedd symudodd i Gymru.

Mae Atgofion Eidalwyr yng Nghymru wedi'i churadu gan Acli-Enaip, mudiad Eidalwyr alltud.

Eisoes mae'r arddangosfa eisoes wedi bod drwy Gymru mewn amgueddfeydd yn Aberystwyth, y Drenewydd, Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Lluniau'r Eidalwyr yng Nghymru
27 Ebr 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific