British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2010, 09:18 GMT
Lle amlwg i'r iaith ar y we?

Cyfrifiadur
Roedd unrhyw un yn gallu siarad am bwnc o'i ddewis ei hun

Potensial technoleg gwe ar gyfer yr iaith Gymraeg oedd testun cynhadledd undydd ddydd Sadwrn.

Y bwriad oedd trafod y datblygiadau ym maes y Gymraeg ac ym myd technoleg.

Fe gafodd Hacio'r Iaith, y digwyddiad cyntaf o'i bath yn ôl y trefnwyr, ei gynnal yn Adeilad Parry Williams ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

Cynhadledd agored oedd hi - roedd unrhyw un yn gallu siarad am bwnc o'i ddewis ei hun.

Y cyfranwyr eu hunain oedd yn penderfynu cynnwys y gynhadledd a'r rhai oedd yn bresennol yn penderfynu'r drefn.

'Posibiliadau'

Dywedodd un o'r cydlynwyr, Rhodri ap Dyfrig, cyn y gynhadledd: "Mae Hacio'r Iaith yn ddigwyddiad sy'n gofyn i bawb gymryd rhan ynddo.

"Byddwn yn sicr o ddarganfod syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y Gymraeg ar y we, a thrin a thrafod datblygiadau newydd yn frwd.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb sy'n frwd dros yr iaith a thechnoleg i Aberystwyth, gyda'u gliniaduron a llond trol o frwdfrydedd.

"Bydd yn ddiwrnod cyffrous."

Gwasanaeth newydd

Mewn un sesiwn roedd rhaglenwyr yn ceisio creu gwasanaeth gwe newydd yn Gymraeg.

Y nod oedd dod â gwybodaeth ynghyd o wahanol ffynonellau ac yna ei chyflwyno'n wreiddiol.

Ar y we mae hwn yn cael ei alw'n "stwnsh".

Roedd Hywel Jones o'r Bwrdd Iaith yn defnyddio mapiau wrth daflu golwg newydd ar ddefnyddwyr y Gymraeg.

Ac roedd cyfle i wrando ar griw un o flogiau technoleg fwyaf poblogaidd y Gymraeg, sef Metastwnsh, yn recordio podlediad byw.

Noddwyr y gynhadledd oedd Cube Interactive, SALT Cymru ym Mhrifysgol Bangor, Sefydliad Mercator Prifysgol Aberystwyth, Sbellcheck a Native HQ.



HEFYD
Gwobr i wefan feddygol Gymreig
09 Gorff 09 |  Newyddion
Arian Google at wefan Gymraeg
16 Mai 09 |  Newyddion
Gwefan newydd i ieuenctid
31 Maw 09 |  Newyddion
Gwefan Gymraeg i bapur newydd
27 Awst 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific