Dywed arweinwyr bod rhaid gwneud toriadau
|
Mae 'na fygythiad i gannoedd o swyddi yn awdurdodau lleol Cymru. Cafodd staff Cyngor Casnewydd lythyrau yn egluro y byddai diswyddiadau posib ac y byddai dyfodol hyd at 300 o swyddi yno yn y fantol. Mae'r cyngor yn ceisio arbed £9 miliwn y flwyddyn nesa. Yn ôl yr arweinydd, Matthew Evans, mae'r awdurdod yn ymateb i gyfyngiadau ariannol. Dywedodd fod rhaid i'r cyngor ystyried pob opsiwn oherwydd maint yr arian sydd angen ei arbed. "Rydyn ni'n gobeithio y bydd toriadau'n deillio o swyddi gwag, adleoli neu ail-hyfforddi." Bygythiad pellach Mae arweinydd Cyngor Abertawe wedi dweud wrth bapur newydd lleol y bydd yr awdurdod yn wynebu cyflwyno diswyddiadau gorfodol. Dywedodd Chris Holley y byddai rhaid i'r cyngor adolygu cynlluniau i gwtogi 500 o staff. Mae 'na fygythiad, meddai, i gannoedd mwy o swyddi. Yn ôl adroddiad yn y Western Mail, mae 'na fygythiad i 10,000 o swyddi awdurdod lleol dros y pedair blynedd nesaf. Maen nhw wedi seilio'r cyfanswm ar ar ystadegau Llywodraeth San Steffan. 700 o swyddi Ym mis Mawrth 2009 fe rybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai 700 o swyddi llywodraeth leol yng Nghymru ddiflannu erbyn diwedd 2009 - a hyd at 2,000 erbyn 2011. Ym mis Chwefror 2009 dywedodd Andrew Davies, y Gweinidog Cyllid ar y pryd, wrth raglen Dragon's Eye fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu £500 miliwn o doriadau yn 2010. Rhybuddiodd y byddai hyn yn effeithio ar iechyd, addysg a gwariant llywodraeth leol.
|