British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010, 20:31 GMT
Talu toll ‚ cherdyn 'yn debygol'

Talu ar y bont
Gall system newydd olygu bod gyrwyr yn gallu defnyddio cerdyn i dalu

Mae caniatáu i yrwyr sy'n teithio rhwng de Cymru a Lloegr dalu toll â cherdyn "yn debygol", medd gweinidog trafnidiaeth Cymru.

Ar hyn o bryd rhaid i yrwyr dalu ag arian parod neu ddyfais electroneg.

Mae angen i Lywodraeth San Steffan newid deddf sy'n atal defnyddio cardiau credyd neu ddebyd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones: Mae'n debyg y bydd modd defnyddio cardiau credyd neu ddebyd erbyn diwedd y flwyddyn hon.

"Dwi'n credu ei fod yn ddatblygiad gwych."

Roedd Mr Jones yn ateb cwestiwn gan y Democrat Rhyddfrydol Mike German AC.

Mae codi tâl ar y ddwy bont yn rhan o Ddeddf Pont Hafren 1992.

Ail Bont Hafren
Gweithgor: Pa mor ymarferol yw defnyddio cerdyn?

Cafodd gweithgor ei sefydlu ym mis Tachwedd 2007.

Roedd 'na gynrychiolwyr o Asiantaeth y Priffyrdd, Severn River Crossing, Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan.

Fe gafodd argymhellion er mwyn caniatáu defnyddio cardiau yn y tollbyrth eu cyflwyno i'r asiantaeth ym mis Hydref 2008.



HEFYD
Cardiau plastig i dalu am dollau?
01 Ion 09 |  Newyddion
Codi tollau Pont Hafren eto
19 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific