Mae 260 milltir o amddiffynfeydd rhag y môr yng Nghymru
|
Mae disgwyl i'r gwaith cryfhau amddiffynfeydd môr yn ardal Tywyn, Meirionnydd, ddechrau cyn diwedd y mis. Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y bydden nhw'n cyfrannu £3.8 miliwn at y cynllun gwerth £6.4 miliwn. Cred peirianwyr y bydd y gwaith yn diogelu hyd at 78 o gartrefi sy'n wynebu problemau llifogydd ar hyn o bryd. Daw £2.6 miliwn ar gyfer y cynllun oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Cyhoeddodd y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, y byddai £1.6 miliwn hefyd ar gael er mwyn cryfhau amddiffynfeydd Llanfairpwll, Ynys Môn. Bydd y cynllun, sy'n werth cyfanswm o £1.9 miliwn, yn cael ei orffen mewn wyth mis. 'Yn bwysig' Y nod yw diogelu tua 90 o gartrefi yn ardal Ffordd Penmynydd. "Er mwyn addasu at effaith newid hinsawdd, mae sut yr ydyn ni'n rheoli ac amddiffyn ein harfordiroedd yn bwysig," meddai Ms Davidson "Bydd y prosiectau hyn yn amddiffyn cartrefi, busnesau a swyddi." Ym mis Hydref fe ddywedodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, y corff sy'n cadw llygad ar y modd mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, fod 600,000 o bobl yng Nghymru'n byw neu'n gweithio mewn ardaloedd sy'n wynebu risg o lifogydd. "Mae'r amcangyfrifon yn awgrymu y bydd cost y difrod oherwydd llifogydd o leia'n dyblu neu o bosib yn cynyddu ugain gwaith dros yr 80 mlynedd nesaf," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Archwilio. Dywedodd yr adroddiad fod angen gwneud mwy i geisio rheoli'r risg.
|