Dywed yr adroddiad bod gormod yn tangyflawni
|
Yn ôl arolwg y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru, mae'r system yn caniatáu i ormod o blant dangyflawni ac mae'r disgyblion galluog a rhai tlota yn diodde hefyd. Yn adroddiad blynyddol Estyn mae'r plant tlota yn dal i wneud yn waeth mewn arholiadau o'i gymharu â phlant eraill. Dydi hyn ddim wedi newid ers tair blynedd. Cafodd adeiladau ysgolion Cymru hefyd eu beirniadu yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth. Dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Bill Maxwell, bod rhaid "codi safonau". Yn ôl ei adroddiad mae'r plant galluog yn colli allan hefyd a ddim yn cyrraedd eu llawn potensial. Dim adnoddau "Rhaid codi safonau a rhoi hwb i blant fod yn uchelgeisiol ac i gyflawni eu gorau," meddai. Ym mhob cyfnod allweddol roedd y plant oedd yn cael cinio ysgol am ddim (mesur ar gyfer tlodi) yn perfformio yn waeth na'r disgyblion eraill. Mae'r adroddiad yn awgrymu os oes mwy o blant o gefndiroedd tlotach yn yr ysgol - yna gwaethygu mae perfformiad gweddill yr ysgol.
 |
Rhaid sicrhau bod pobl disgybl ac ysgol yn cael yr hyn sy'n deilwng iddyn nhw
|
"Mae'r sefyllfa yn un anodd iawn yma, does 'na ddim ystafell cyfrifiaduron yma," meddai Petra Davies, pennaeth Ysgol Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog, Cwm Rhondda. "Ry'n ni'n gweld h'n anodd rhoi adnoddau sy'n deilwng i'n plant yn y cyfnod sylfaen. "Ry'n ni'n gofyn i'r rhieni a'r gymuned leol am gymorth, pawb mor hael ac yn brwydro dros gadw addysg sy'n ysbrydoli plant er mwyn ein dyfodol." Trwy gyfnod cynradd mae lefelau cyrhaeddiad plant yn agos neu'n well na'r hyn sydd i weld yn Lloegr. Ond wedi hynny yn yr oedran uwchradd mae yna fwlch yn datblygu ac mae plant o Gymru yn disgyn y tu ôl i'w cymdogion yn Lloegr. 'Llwybr cywir' Dywed Estyn bod disgyblion yn dal i adael heb ganlyniadau TGAU da yn y pynciau craidd. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyflwr gwael 40% o adeiladau ysgolion uwchradd Cymru. Y Gymraeg fel iaith gynta ydi'r pwnc cryfa gan yr ysgolion ar y cwricwlwm ac mae'n mynd o nerth i nerth ond nid felly Cymraeg fel ail iaith. "Heb os ac oni bai mae ysgolion Cymru ar y llwybr cywir," meddai Geraint Davies o undeb athrawon yr NASUWT. "Rhaid sicrhau bod pob disgybl ac ysgol yn cael yr hyn sy'n deilwng iddyn nhw. "Mae 'na broblemau wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf o ran ariannu addysg yng Nghymru. "Gobeithio y gwelwn y bwlch rhwng Cymru a Lloger yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf." Mewn ymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth y Cynulliad yn falch o weld cydnabyddiaeth o'r gwelliannau sydd wedi dwyn ffrwyth. Ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw rŵan edrych ar yr holl agweddau a pheidio â gorffwys ar y rhwyfau yn ôl y datganiad.
|