British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 23 Ionawr 2010, 10:22 GMT
Organau: Apl arbennig gan fam

Richard Taylor
Fe fu farw Richard Taylor ar l taro ei ben ar bolyn lamp

Mae mam i gyn bencampwr sglefrio o'r Barri, a fu farw yn 23 oed yn dilyn damwain, ymhlith y bobl sy'n cefnogi ymgyrch i berswadio pobl i gofrestru ar gyfer rhoi organau.

Roedd Richard Taylor wedi cofrestru i roi organau ac yn dilyn ei farwolaeth yn 2004 fe ddefnyddiwyd ei organau i achub bywydau chwech o bobl.

Nawr mae ei fam yn cefnogi ymgyrch newydd sy'n cael ei lansio yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywed y Gwasanaeth Iechyd, sy tu cefn i'r fenter, bod dros 350 o bobl yng Nghymru ar restr aros.

Y llynedd, meddai llefarydd, bu farw 36 o bobl wrth aros am organ.

'Cyfrannu'

"Byddwn yn gofyn i bobl ystyried be fyddan nhw'n ei wneud pe bai nhw angen organ - a fydda nhw'n ei dderbyn?," meddai Sally Johnson, o adran Rhoi Organau a Trawsblannu'r Gwasanaeth Iechyd.

"Ac os ydynt yn barod i dderbyn un, yna a ddylai nhw fod yn barod i gyfrannu eu hunain."

Dywedodd Gaynor Taylor fod ei mab Richard wedi penderfynu'n ifanc iawn i ymuno â'r gofrestr rhoi organau.

Gallai i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobl ymuno â'r gofrestr
Gaynor Taylor

Bu farw ei mab, oedd yn bencampwr amatur y byd, o anafiadau difrifol i'w ben ar ôl taro yn erbyn polyn lamp wrth sglefrio yn Awst 2004.

"Fe wnaeth Richard helpu achub bywydau chwech o bobl, rhywbeth oedd yn help wrth i ni geisio dod i dermau gyda'i golli.

"Gallai i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobl ymuno â'r gofrestr," meddai.

Cerdyn rhoddwr
Mae dros 350 o bobl Cymru ar y rhestr aros

Daw'r ymgyrch ddiweddara ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi ym mis Rhagfyr eu bod am geisio pwerau newydd i newid y drefn bresennol ar gyfer rhoi organau.

Gallai trefn newydd olygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod yr unigolyn yn cofrestru nad hwn yw ei ddymuniad.

Wrth aros am newid yn y ddeddf dywedodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart ym mis Rhagfyr y byddai'n parhau i ymdrechu'n galed i berswadio mwy o bobl i ymuno â'r gofrestr rhoi organau.



HEFYD
Sglefriwr yn marw'n ddamweiniol
04 Mai 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific