British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010, 14:55 GMT
Cynllun ehangu maes awyr

Argraff artist o du blaen yr adeilad terminws newydd.
Argraff artist o du blaen yr adeilad terminws newydd.

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu'r adeilad terminws yno.

Mae'r cynllun £5m, sy'n rhan o strategaeth fuddsoddi ehangach gwerth £15m, wedi mynd ger bron swyddogion cynllunio.

Pe bai'n derbynl caniatâd cynllunio , mae'n bosib y gallai gwaith ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Patrick Duffy y byddai'r cynllun yn gwella delwedd y maes awyr ac yn eu galluogi i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i deithwyr.

Maes Awyr Caerdydd
Bydd unedau manwerthu newydd yn yr adeilad

Er iddo gyfaddef fod y newidiadau'n digwydd mewn cyfnod lle mae'r dirwasgiad wedi cael effaith ar deithio awyr, mynnodd: "Ein bwriad yw ehangu'r adeilad a....chynyddu ein gweithgareddau masnachol.

"Yr hyn fydd yn rheoli tyfiant mewn traffig awyr i Gaerdydd - i mewn ac allan - fydd cwmnïau awyrennau yn ymateb i welliant mewn perfformiad economaidd de Cymru, a phroffil l Cymru yn rhyngwladol.

'Gwallgofrwydd economaidd'

Yn 2009 y cafodd gwaith arall ar adeiladu'r maes awyr ei gwblhau, ym mis Gorffennaf 2009 fe gyhoeddodd y dirprwy brif weinidog Ieuan Wyn Jones na fyddai cynllun i wella mynediad ar ffyrdd i' Faes Awyr Caerdydd yn digwydd wedi'r cyfan.

Yn hytrach, fe fyddai Llywodraeth Y Cynulliad yn ystyried cynnal gwasanaeth bws bob hanner awr o'r maes awyr i ganol dinas Caerdydd, trenau amlach a gwella diogelwch ar yr A4266 (y ffordd i'r maes awyr).

Cafodd y penderfyniad yna'i ddisgrifio fel "gwallgofrwydd economaidd" gan yr aelod seneddol lleol, John Smith.



HEFYD
Maes awyr yn adnabod wynebau
17 Tach 09 |  Newyddion
Brand dwyieithog i faes awyr
02 Maw 09 |  Newyddion
Gwella ffordd: 150 yn protestio
29 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific