British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010, 09:51 GMT
Tipio sbwriel: cosbi llymach

Sbwriel
Bu 55,000 o achosion o dipio anghyfreithlon mewn ychydig dros flwyddyn

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd y byddan nhw'n cosbi rhai sy'n tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn fwy llym.

Mae ffigyrau'n dangos fod 55,000 o achosion o bobl yn gadael sbwriel yn anghyfreithlon rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009, gan gostio £3m i'r trethdalwr.

Bydd gwefan newydd Taclo Tipio Cymru yn cynghori pobl sut i gael gwared o'u sbwriel mewn modd cyfrifol.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, fod tipio yn "annerbyniol, ac yn bla ar ein cymunedau."

Cofrestru

Nod yr ymgyrch yw tanlinellu maint y broblem, ac i hysbysu pobl a busnesau am eu cyfrifoldeb cyfreithiol i gael gwared o'u sbwriel mewn modd cyfrifol, meddai'r Asiantaeth.

Dylai unrhywun sy'n defnyddio adeiladwr, plymiwr, garddwr neu weithwyr eraill i gael gwared o'u sbwriel sicrhau eu bod wedi cofrestru fel symudwr sbwriel gydag Asiantaeth Yr Amgylchedd.

I gael mwy o gyngor, gall y cyhoedd ffonio Asiantaeth Yr Amgylchedd ar 08708 506506.

Bellach mae technegau fforensig a chamerau oddi uchod yn cael eu defnyddio i ddal y rhai sy'n torri'r gyfraith.

Cafodd 72 o bobl neu grwpiau eu herlyn yng Nghymru yn ystod 2008-09, gyda throseddwyr yn wynebu dirwy o hyd at £50,000 a dedfryd o garchar.

Mae'n annerbyniol ac yn bla yn ein cymunedau
Jane Davidson AC

Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Y Cynulliad

'Tasg anodd'

Helen Jenkins yw Cyd-lynydd Taclo Tipio Cymru.

"Dydyn ni ddim yn amcangyfrif yn rhy isel maint y broblem yng Nghymru a'r dasg anodd sy'n ein wynebu i'w daclo," meddai.

"Mae Ionawr yn un o'r misoedd gwaeth am ddigwyddiadau tipio wrth i bobl glirio wedi'r Nadolig. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn defnyddio symudwr sbwriel wedi'i gofrestru fel adduned flwyddyn newydd."

Dywedodd Gweinidog Yr Amgylchedd, Jane Davidson: "Mae'n hen bryd cael gwared a'r arfer o dipio yng Nghymru. Mae'n annerbyniol ac yn bla yn ein cymunedau.

"Mae'n costio miliynnau i gynghorau trwy Gymru i lanhau'r llanast.

"Dyma arian fedrai gael ei wario ar wasanaethau lleol eraill. Mae gan bob un ohonom ni rhan i'w chwarae i wneud gwahaniaeth."



HEFYD
'Cadwch yr arfordir yn ln'
18 Meh 08 |  Newyddion
Talu'n ddrud am waredu sbwriel
23 Ebr 07 |  Newyddion
Sbwriel ar draethau ar gynnydd
20 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific