Fe fydd adeiladau Nant Gwrtheyrn yn cael eu hadfer
|
Fe fydd 12 o adeiladau hanesyddol Cymru yn derbyn arian tuag at waith cadwraeth. Ymhlith yr atyniadau mae 'na hen ysgol, stablau, amgueddfa a hen flwch ffôn heddlu. Fe fydd dros £400,000 yn cael ei rannu rhwng y 12 adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio ac adfer hanfodol. Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn sy'n derbyn y grant mwya o £162,178 ar gyfer gwaith atgyweirio. Mae'r grantiau eraill yn amrywio o £5,000 i £60,000.
Un o'r adeiladau fydd yn elwa ydi hen adeilad blwch ffôn heddlu yng Nghasnewydd
|
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi cychwyn i adfer yr adeiladau i'r hyn yr oedden nhw yn 1860au. "Rydym yn falch iawn o'r arian gan Cadw a fydd yn mynd tuag at y £5 miliwn sydd ei angen i wneud y gwaith yn y Nant," meddai Jim O'Rourke, rheolwr y ganolfan. "Rydym wedi derbyn £4 miliwn o grantiau, gan gynnwys yr arian diweddara. "Gallwn osod ffenestri newydd, pwyntio'r adeiladau a gosod toeau newydd er mwyn i'r pentref edrych fel yr oedd yn 1860. "Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn y gwanwyn." Un adeilad go anarferol fydd yn derbyn £10,500 ydi hen flwch ffôn heddlu yng Nghasnewydd. Mae'r blwch ffôn glas hanesyddol yn Somerton yn agos iawn at galon y gymuned leol ac yn cael ei adnabod fel y "Tardis".
 |
GRANTIAU I ADEILADAU
£25,500: 3 Buckingham Place, Aberhonddu
£24,000: Stablau Neuadd Bodrhyddau, Rhuddlan
£10,800: Parc Stanage, Trefyclo
£36,000: Adeilad yr Hen Ysgol, Llanarmon-yn-Iâl
£11,250:Yr Amgueddfa Hanesyddol a Morol, Nefyn
£11,250: Tŷ Mawr, Solfach, Hwlffordd
£10,500: Hen Flwch Ffôn yr Heddlu, Somerton, Casnewydd
£54,000: Tŷ'r Ywen, Partrisio, Crucywel
£5,000: 17 The Village, Cleirwy, Powys
£21,000: Neuadd Hafodunos, Llangernyw
£162,178: Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn
£60,000: Tŷ'r Cwmnïau, Gwaith Haearn Blaenafon
|
Fe fydd yr arian yn cael ei wario er mwyn helpu i'w warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "Rydym yn falch iawn o gael yr arian hwn, a fydd yn ein helpu i adfer a chynnal y safle lleol arbennig hwn sy'n boblogaidd iawn," meddai Deborah Clark o RASCAL (Regeneration Association Somerton Community at Large). "Mae pawb yn y gymuned hon, yn ogystal â llawer o bobl eraill, wrth eu boddau â'r blwch ffôn hwn. "Bellach, byddwn yn gallu sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu ei fwynhau hefyd." Ymhlith yr atyniadau eraill i dderbyn grantiau y mae Neuadd Hafodunos, Llangernyw, a fydd yn defnyddio'r arian i wneud gwaith brys i sefydlogi'r adeiladwaith ar yr adeilad rhestredig o'r 19fed Ganrif. Cafodd rhan o'r adeilad gafodd ei godi gan Syr George Gilbert Scott ei ddinistrio gan dân yn 2004. Ond mae'r perchenogion newydd yn bwriadu adfer y tŷ a'i droi'n un annedd gyda'r grant o £21,000. Bydd Amgueddfa Hanesyddol a Morol yn Nefyn yn cael £11,250 tuag at do newydd a chwblhau'r gwaith cysylltiedig i'r amgueddfa sydd yn hen Eglwys y Santes Fair. Caiff £11,250 ei gynnig hefyd i Dŷ Mawr, Solfach, Hwlffordd, ty deulawr a godwyd ar ddechrau'r 19fed Ganrif. Bydd gwaith atgywirio yn cael ei wneud i du allan yr adeilad. "Mae'n bleser gennyf gynnig y grantiau hyn i atgyweirio adeiladau hanesyddol," meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth. "Mae'r adeiladau sy'n cael y grantiau, sy'n amrywio o'r blwch ffôn enwog hwn i ysgolion a stablau, yn dangos pa mor gyfoethog yw'r amrywiaeth o safleoedd treftadaeth sydd gennym yng Nghymru, a'r safleoedd y mae Cadw'n helpu i'w gwarchod. "Bydd y grantiau hyn yn sicrhau bod yr adeiladau hanesyddol yn cael eu hadfer er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu eu mwynhau."
|