British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ionawr 2010, 12:22 GMT
Cwmni sment yn 'peryglu iechyd'

Castle Cement

Mae llys wedi clywed y gallai iechyd y cyhoedd fod wedi dioddef wrth i gwmni sment dorri rheolau gweithredu.

Roedd mwy o risg o gael cansyr a chyflyrau anadlu a'r galon - er clywodd y llys nad oedd tystiolaeth fod hynny wedi digwydd.

Plediodd Castle Cement, perchnogion y ffatri yn Padeswood ger Yr Wyddgrug, yn euog i bedwar cyhuddiad a wnaed gan Asiantaeth Yr Amgylchedd rhwng Awst 2005 a Mai 2007.

Fe ofynnon nhw i'r llys ystyried trosedd arall hyd at Hydref 2009.

Yn Llys Ynadon Sir y Fflint dywedodd y barnwr sirol Andrew Shaw nad oedd ganddo'r grym i ddelio â'r mater.

Fe fydd y cwmni'n cael ei ddedfrydu yn Llys Y Goron.

Camerâu cudd

Clywodd y llys fod yr asiantaeth wedi gosod camerâu cudd oedd yn dangos nad oedd y cwmni yn eu hysbysu am allyriadau.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Barry Berlin, fod iechyd y cyhoedd dan fygythiad wrth anadlu llwch a mwg allai achosi cansyr.

Fe ddarllenodd dystiolaeth arbenigwyr oedd yn dweud y gallai rhai allyriadau o'r ffatri gynyddu'r risg o afiechydon anadlu a chansyr.

Synnu

Wrth amddiffyn, dywedodd John Wyn Williams nad oedd unrhyw dystiolaeth o niwed i'r cyhoedd na'r amgylchedd.

Roedd y cwmni, meddai, wedi synnu eu bod wedi cael eu herlyn, gan gredu fod yr asiantaeth yn fodlon ar newidiadau oedd wedi digwydd yno.

Ym mis Mawrth 2006 roedd y cwmni wedi cael dirwy o £99,000 am ganiatáu allyriadau diocsinau o'r hen odyn ar y safle.

Dywedodd Mr Williams fod y cwmni wedi ymateb yn bositif i bryderon yr asiantaeth a doedd hwn ddim yn achos o gwmni yn rhoi elw uwchlaw rheolau amgylcheddol.



HEFYD
Diocsinau: Dirwy i gwmni sment
01 Ebr 06 |  Newyddion
Sment: Ymchwiliad cyhoeddus
30 Awst 06 |  Newyddion
Pryderon am waith sment
04 Maw 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific