British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ionawr 2010, 07:24 GMT
Protest pensiwn cyn-weithwyr

Protest cyn weithwyr Visteon
Bu cyn weithwyr Visteon yn protestio y tu allan i'r senedd brynhawn Iau.

Mae cyn-weithwyr Visteon wedi bod yn protestio y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ynglŷn â cholli rhan o'u pensiynau.

Mae Undeb Unite wedi trefnu'r rali ar ôl i'r rhan Brydeinig o'r cwmni gael ei roi yn nwylo gweinyddwyr y llynedd.

Yn ôl gweithwyr fe gafwyd sicrwydd gan Visteon yn 2000 ynglŷn â'u pensiynau.

Cwmni Ford oedd yn berchen ar y safle.

Dywedodd Ford eu bod wedi cadw at eu cyfrifoldebau - neu wedi mynd gam yn bellach - tuag at y staff wnaeth drosglwyddo i Visteon pan aeth yn annibynnol.

Gofynnodd aelodau Unite i'r aelodau Cynulliad gefnogi eu hachos y tu allan i'r Senedd ddydd Iau.

Darpariaeth

Y llynedd aeth Visteon UK i ddwylo'r gweinyddwyr gyda bron i 1,000 o weithwyr yn Abertawe, Basildon, Belfast ac Enfield, yn colli eu gwaith.

Ar ôl ymgyrchoedd a phrotestiadau dywedodd yr undeb bod 'na gytundeb diswyddo teg wedi ei gynnig.

Ond mae'r undeb nawr yn ymladd dros y ddarpariaeth pensiwn.

Mae'n dweud mai dim ond rhan o bensiwn y gweithwyr y bydd cronfa gwarchod pensiynau'r llywodraeth yn ei gynnig.

Mae'r undeb yn credu na ddylai'r trethdalwr fod yn gyfrifol am ddigolledu'r gweithwyr.

Wrth i'r gwaith gael ei drosglwyddo o Ford i Visteon cafodd addewidion sicr eu gwneud gan Ford i warchod buddiannau'r gweithwyr.

Cyfrifoldeb Visteon

"Fe fydd Unite yn cefnogi'r cyn-weithwyr i gael cyfiawnder," meddai ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb, Andy Richards.

"Fe wnaeth Ford addewidion i'r gweithwyr cyn trosglwyddo i Visteon ac rydym am iddyn nhw gadw at yr addewidion yma."

Yn ôl yr undeb fe fyddan nhw'n trafod y mater yma gydag uwch swyddogion Ford yn Efrog Newydd ddydd Gwener.

Mewn datganiad dywedodd Ford eu bod wedi cadw at yr oblygiadau - neu wedi mynd gam yn bellach yn 2000.

"Roedd y cytundeb yn cynnwys trosglwyddo gweithwyr i Visteon UK ac felly eu pensiynau i gronfa pensiwn Visteon.

"Mae'r sefyllfa i gyn-weithwyr Visteon UK yn anffodus ond mater i Visteon ydi gweinyddu ac ariannu'r termau.

"Mae oblygiadau Ford i'r cyn-weithwyr wedi dod i ben a does 'na ddim achos i'w ateb."

Ychwanegodd llefarydd bod Visteon wedi gweithredu fel cwmni annibynnol ers 2000 gan gyfrannu rhannau i Ford.

"Yn ystod y cyfnod yma mae Ford wedi cymryd sawl cam i gefnogi Visteon ac i gynorthwyo Visteon yn eu hymdrechion tymor hir."



HEFYD
Cwmni ceir: 'Cam positif ymlaen'
20 Hyd 07 |  Newyddion
Cwmni ceir: Colli 175 swydd
30 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific