British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ionawr 2010, 07:42 GMT
Ysgol gynradd yn dathlu'r 60 yn Abertawe

Murlun Ysgol Ln Las
Mae'r ysgol yn 60 oed eleni

Wrth i ysgol Gymraeg ddathlu 60 oed eleni fe fydd 'na lyfryn yn adrodd hanes yr ysgol yn cael ei gyflwyno.

Bydd cynddisgyblion, staff a disgyblion Ysgol Lôn Las yn Abertawe yn dathlu'r garreg filltir.

Erbyn hyn mae bron 500 o ddisgyblion yn yr ysgol mewn adeilad sy'n addas ar gyfer 350 o blant. Gweinidogion lleol ymgyrchodd i sefydlu'r ysgol Gymraeg yn y ddinas yn 1947.

Roedd hyn ar ôl adroddiad arolygydd ysgolion yn sôn am gyflwr truenus addysg Gymraeg yn Abertawe.

Penderfynol

Gyda hwb oddi wrth bobl fel Syr Ifan ab Owen Edwards, fe wnaeth yr ysgol agor y drws ym mis Medi 1949.

Ymweliad Syr Ifan ab Owen Edwards
Bu Syr Ifan ab Owen yn gefnogol i'r ymgyrch i sefydlu'r ysgol

"Dwi'n edmygu'r rhai oedd y tu cefn i sefydlu'r ysgol," meddai Ann Rosser, cadeirydd y llywodraethwyr.

"Roedden nhw'n caru'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ac yn benderfynol o gael ysgol Gymraeg i Abertawe a'r cylch."

Dim ond 71 o blant oedd yn yr ysgol y diwrnod cyntaf.

Roedd pob un ohonyn nhw o deuluoedd cwbl Gymraeg - yn unol â pholisi'r ysgol ar y pryd.

Erbyn hyn mae 98% o'r plant o aelwydydd di-Gymraeg.

Symud safle

"Mae'r rhan fwyaf o'r plant sy'n cyrraedd yma yn dair oed nawr yn ddi-Gymraeg," meddai Dyfrig Ellis, pennaeth yr ysgol.

Cyfrol Atgofion Ysgol Ln Las
Mae cyfrol o atgofion a hanes yr ysgol wedi ei chyhoeddi

"Ac maen nhw'n cael eu trwytho yn yr iaith fel y maen nhw mewn unrhyw un o ysgolion Cymraeg y ddinas ac yn y de yn gyffredinol.

"Mae nhw'n dysgu'r iaith yn gyflym iawn a dwi'n synnu bod plant yn cyrraedd yma ym mis Medi yn perfformio ac yn cymryd rhan, yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyngherddau Nadolig."

Yn 1993 symudodd yr ysgol i'w safle yn Llansamlet.

Ond mae'r adeilad yn rhy fach.

"Mae'r ysgol o safbwynt yr adeilad yn dirywio," meddai Mrs Rosser.

"Mae'n ddigon cysurus tu mewn i'r plant a dydyn nhw ddim yn cael cam ond fe fyddai unrhyw un sy'n deall adeiladau yn deall bod eisiau gwella."

Gwrthod

Dywedodd Mr Ellis: "Rydyn ni o dan ein sang ac yn defnyddio pob twll a chornel er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n gwrthod unrhyw blentyn.

"Yn anffodus, rhif safonol yr ysgol yw 60 ac mae 125 wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth meithrin ym mis Medi eleni.

"Fyddwn i'n bersonol ddim yn gallu cysgu'r nos os byddwn i'n gwrthod unrhyw un sydd wedi cofrestru.

"Yn anffodus, does ganddon ni ddim lle ar hyn o bryd ac rydyn ni'n aros yn eiddgar i glywed be sydd gan yr awdurdod i'w ddweud i ateb y galw yn Abertawe."

Ymhlith y cynddisgyblion yn Lôn Las mae'r cyn-bêl-droediwr John Hartson, Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones, y digrifwr a'r actor Dewi Pws a'r actorion Rhian Morgan a Steffan Rhodri.



HEFYD
'Dim lle' i blant Cymraeg
23 Hyd 07 |  Newyddion
Snwcer yn hwb i addysg
08 Meh 05 |  Newyddion
Cynllun i dagio plant amser cinio
20 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific