British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010, 13:39 GMT
Caniatād i ddatblygu hen westy

Gwesty'r Grange
Credir fod y tan yng ngwesty'r Grange wedi'i gynnau'n fwriadol

Cafodd cynllun i ail godi gwesty yn y Rhyl ei gymeradwyo gan gynghorwyr Sir Ddinbych.

Fe gafodd Gwesty'r Grange ar lan y môr yn y dre ei ddinstrio gan dân bron ddwy flynedd yn ôl.

Mae'r perchnogion - cwmni datblygu Japa Developments - wedi cael caniatad cynllunio i droi rhan o'r adeilad cofrestredig yn 20 o fflatiau, a chreu tŷ bwyta, a chanolfan ddigwyddiadau ar y llawr gwaelod.

Bu'r adeilad yn wag ers i'r tân - y credir iddo gael ei gynnau'n fwriadol - achosi difrod sylweddol ym mis Mawrth 2008.

Clywodd aelodau pwyllgor cynllunio'r awdurdod lleol y byddai'r datblygiad newydd yn cadw cymeriad gwreiddiol y gwesty.



HEFYD
Cynllun fflatiau i hen westy
05 Ebr 09 |  Newyddion
Tān: Heddlu yn ymchwilio
21 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific