British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Ionawr 2010, 13:21 GMT
Pentre drama newydd i Gymru?

Cwmderi
Cynlluniau ar gyfer 'pentre drama' newydd fydd yn gartref i Pobol y Cwm, Dr Who a Casualty.

Mae'n bosib y bydd gan Pobol y Cwm a Dr Who gartre newydd oherwydd cynlluniau i ddatblygu Canolfan Cyfryngau Digidol ym Mae Caerdydd.

Bydd y cynlluniau yn cynnwys pentre drama newydd i'r BBC er mwyn ffilmio'r cyfresi poblogaidd y gorfforaeth.

Mae disgwyl i'r cais cynllunio ar gyfer y ganolfan ym Masn y Rhath fynd gerbron Cyngor Caerdydd y mis nesa.

Yn ogystal â'r cyngor sir a'r BBC, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn rhan o'r prosiect i godi canolfan ar 27 erw o dir.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth y Cynulliad mai'r nod fyddai datblygu safle fyddai'n ganolfan hefyd i gwmnïau cynhyrchu annibynnol.

Mae bwriad i ddechrau'r gwaith ymhen ychydig o fisoedd.

Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru bydd y ganolfan yn gartref i nifer o gyfresi'r rhwydwaith sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Y llynedd cyhoeddodd y BBC fod y gyfres boblogaidd Casualty yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru nid Bryste yn 2011.

"Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar lwyddiant cynyrchiadau drama BBC Cymru a'r diwydiannau creadigol ehangach yng Nghymru," meddai Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

Ymrwymiad

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cast a chriw'r rhaglen hynod lwyddiannus, Casualty, i'r ganolfan rhagoriaeth newydd, i weithio ochr yn ochr â dramâu eraill sydd eisoes yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru."

Mae cynllun y ganolfan cynhyrchu drama yn rhan o ymrwymiad y BBC i ddyblu'r cynyrchiadau rhwydwaith teledu o Gymru erbyn 2016.

Ar hyn o bryd, mae BBC Cymru fynycha yn cynhyrchu dramâu ar ddau safle ar wahân yn Llandaf ac yng Nglan-bâd, ger Pontypridd.

Mae'r tir ym Masn y Rhath yn eiddo i Lywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog y gallai'r cynllun fod yn hwb mawr i'r economi wedi'r dirwasgiad.

"Pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi fe allwn ddechrau'r gwaith o fewn misoedd gan greu swyddi yn y diwydiant adeiladu.

"Ac unwaith fod y safle wedi ei gwblhau fe ddylai hefyd chwarae rhan allweddol wrth greu swyddi parhaol.



HEFYD
Cryfhau'r cysylltiad Celtaidd
20 Maw 04 |  Newyddion
O Bobol y Cwm i rygbi'r byd
19 Hyd 03 |  Newyddion
Ffarwelio meddyg Cwmderi
05 Medi 03 |  Newyddion
Diwedd ar Reg yng Nghwmderi
21 Chwef 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific