British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Ionawr 2010, 08:54 GMT
Clirio afonydd i wella'r amgylchedd

Afon Wysg yng Nghaerllion (Llun: Steve Westhead)
Fe fydd afonydd Cymru, gan gynnwys Afon Wysg, yn cael eu glanhau

Mae cynllun ar y gweill i lanhau afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd Cymru er mwyn eu hadfer ac annog mwy o fywyd gwyllt.

Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gwella'r holl ddyfrffyrdd erbyn 2015 a'u hadfer i'w cyflwr gwreiddiol erbyn 2027.

Eu gobaith yw sicrhau bod cwmnïau dwr, mudiadau amaethyddol, diwydiannau a chynghorau yn cyd-weithio i daclo problem llygredd.

Jane Davidson, Gweinidog Amgylchedd Cymru fydd yn lansio'r prosiect yn ddiweddarach ddydd Llun.

Y bwriad ydi gwneud dyfroedd Cymru yn fyw atyniadol i bobl a bywyd gwyllt.

Mae'r prosiect yn cynnwys cynlluniau i daclo llygredd.

Ymhlith y bywyd gwyllt all elwa y mae dyfrgwn, llygod dŵr, brogaod, glas y dorlan, ieir bach yr haf a physgod.

Dywedodd Ms Davidson cyn lansio'r prosiect yng Ngwarchodfa Gwlypdir Bae Caerdydd, bod hi'n allweddol bod ansawdd yr afonydd yn gwella ac yn cael ei ddiogelu.

"Dwi'n falch bod afonydd fel Y Tâf sy'n llifo drwy de Cymru i Fae Caerdydd yn lanach nag y maen nhw wedi bod ers cenedlaethau.

"Mae'r cynlluniau yn gosod sail i adeiladu ar y llwyddiant ... creu amgylchedd gwell i bobl a bywyd gwyllt."

Dywedodd Chris Mills, cyfarwyddwr Asiantaeth Amgylchedd Cymru bod angen gwneud mwy er bod y sefyllfa ar hyn o bryd y gorau ers beth amser.

"Rhaid cyrraedd targedau newydd, nid yn unig ar Afon Tâf ond ar draws Cymru ac mae angen i bawb chwarae ei ran, o ffermwyr a thirfeddiannwr, i gwmnïau dŵr, diwydiannau, awdurdodau lleol a mudiadau bywyd gwyllt.

"Mae hyn yn her sy'n bosib ei gwireddu ac a fydd yn creu Cymru yn lle gwell i fyw."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific