British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Ionawr 2010, 09:43 GMT
Cymru'n cefnogi prosiect hanes byd

Clogyn Aur Yr Wyddgrug
Mae Clogyn Aur Yr Wyddgrug yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Brydeinig

Mae amgueddfeydd Cymru yn uno gydag ymgyrch gan y BBC i greu cofnod digidol ar y we sy'n adrodd hanes y byd drwy eitemau.

Caiff pobl Cymru eu hannog i edrych ar y wefan ac anfon darluniau o'u heitemau er mwyn adeiladu darlun o effaith Cymru ar y byd a'r byd ar Gymru.

Mae'r wefan bbc.co.uk/ahistoryoftheworld yn cael ei lansio i gyd-fynd â rhaglen sy'n edrych ar amgueddfeydd Prydain.

Bydd rhaglen Wales and the History of the World yn cael ei ddangos gan BBC Cymru yn y gwanwyn.

EITEMAU
Bwyell llaw carreg o Ogof Pontnewydd
Bwyell llaw carreg o ogof Pontnewydd (Amgueddfa Cymru)
Copi personol David Lloyd George 'o gytundeb heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf (Amgueddfa Lloyd George)
Argraffiad cyntaf llyfr gan Robert Recorde, wnaeth greu'r arwydd = (Amgueddfa Dinbych y Pysgod)
Ffrog Laura Ashley (Amgueddfa Powysland)
Dolen gadwyn gan gwmni Brown Lennox Pontypridd (Amgueddfa Treftadaeth Pontypridd)

Mae BBC Cymru wedi bod yn cyd-weithio gydag amgueddfeydd yng Nghymru i ganfod eitemau ar gyfer y wefan.

Ymhlith yr eitemau y mae ffrog Laura Ashley o Bowys a dolen gadwyn llongau o Bontypridd.

Fe fydd y gyfres yn cael ei chyflwyno gan y darlledwr Eddie Butler.

Mae'n adrodd hanes dylanwad Cymru ar y byd a dylanwad y byd ar Gymru drwy eitemau a geir mewn amgueddfeydd.

Gobaith y cynhyrchwyr ydi y dylai'r cyhoedd gyfrannu eitemau at y wefan i ychwanegu at y stori.

Dywedodd Clare Hudson, cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, ei bod yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn ymweld ag amgueddfeydd i weld yr eitemau ac i feddwl am yr eitemau yn eu cartref eu hunain allai ddweud stori.

"Mae'n gyfle arbennig i greu amgueddfa ddigidol unigryw, yn defnyddio eitemau adnabyddus ond hefyd eitemau personol sydd â stori i'w ddweud," meddai.

Ar raglen Nia ar Radio Cymru bydd 'na drin a thrafod rhai o'r eitemau ac eitemau'r gwrandawyr am bum wythnos i Ionawr 25 ymlaen.

Bydd rhaglen Roy Noble ar BBC Radio Wales hefyd yn edrych ar rai o'r eitemau gorau yn y gwanwyn.

Mae 24 o amgueddfeydd Cymru wedi anfon delweddau ar gyfer cychwyn y wefan ac mae 'na 350 amgueddfydd ar draws y DU yn cyfrannu.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific