British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010, 14:19 GMT
Cynnig i newid gwyliau ysgol

Sioe Frenhinol Cymru
Bydd Sioe 2011 yn dechrau cyn i ysgolion Gwynedd gau am yr haf

Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun i gau'r ysgolion wythnos yn gynt y flwyddyn nesa er mwyn i blant a staff fynd i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae'r cynghorydd John Pughe Roberts wedi cyflwyno cynnig gerbron y cyngor llawn.

Ynddo mae'n nodi mai'r hen Sir Gaernarfon fydd yn noddi'r Sioe yn 2011.

Ond mae'n nodi fod y Sioe yn dechrau cyn i ysgolion Gwynedd gau am yr haf.

"Mae ymdrechion ar waith dryw'r sir i godi arian i hyrwyddo'r sioe ac i'w wneud yn llwyddiant cofiadwy," meddai Mr Roberts.

'Synnwyr cyffredin'

"Yn wyneb hyn, mae rhieni ac athrawon, ynghyd ag eraill sy'n gweithio yn ein hysgolion, wedi sylwi'r trafferthion sy'n eu hwynebu oherwydd gwyliau haf yr ysgolion yng Ngwynedd a Chonwy.

"Er lles pawb, ac er mwyn gweld synnwyr cyffredin, dwi'n cynnig y dylai ysgolion Gwynedd, fel ysgolion yng nghanolbarth a de Cymru, gau ar ddydd Gwener Gorffennaf 16, 2011."

Ond dywedodd Dewi Jones, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, mewn adroddiad i'r cyfarfod fod dyddiadau gwyliau ysgol ar gyfer chwe sir y gogledd yn cael eu cytuno gan dasglu o swyddogion o bob ardal.

"Cafodd dyddiadau'r Sioe Frenhinol yn 2011 a 2016 eu trafod (lle mae dyddiadau'r sioe a thymhorau ysgol yn cydredeg) ond doedd y tasglu ddim o'r farn fod hynny'n haeddu sylw arbennig.

"Dylid nodi fod y cyngor wedi dweud wrth swyddogion yr adran addysg i drafod dyddiadau gwyliau ysgol gydag undebau'r athrawon.

"Byddai unrhyw weithredu yn groes i hynny yn tanseilio'r cydweithredu yna, a hefyd cydweithredu ar draws awdurdodau addysg lleol."



HEFYD
Rhieni'n poeni am Sioe 2005
21 Gorff 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific