British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010, 13:06 GMT
Gweithwyr hufenfa'n gadael am y tro ola

Hufenfa Llandyrnog
Rhai o'r gweithwyr yn gadael yr hufenfa

Bydd rhai gweithwyr yn gadael Hufenfa Llandyrnog yn Sir Ddinbych am y tro ola ddydd Gwener.

Cyhoeddodd y cwmni ym mis Tachwedd y byddai 56 o bobol yn colli'u gwaith ar y safle.

Mae'r mwyafrif o rheini yn gorffen ddydd Gwener, gyda'r gweddill yn gadael cyn Chwefror 12.

Colli cytundeb

Cwmni Milk Link brynodd yr hufenfa yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, ar ôl i gwmni Ffermwyr Llaeth Prydain fynd i'r wal ym mis Mehefin 2009.

Roedd y cwmni cydweithredol wedi colli cytundeb ag archfarchnad ac yn ei chael hi'n anodd i dalu pris cystadleuol i 1,800 o ffermwyr am eu llaeth.

Wedyn awgrymodd adolygiad fod "lefelau staffio'n rhy uchel".

Mae Milk Link, sy'n cyflogi 160, wedi penderfynu symud gwaith gynhyrchu i'w ffatri yng Nghroesoswallt.

Gresynu

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n canolbwyntio ar gynhyrchu dim ond caws yn Llandyrnog.

Dywedodd Tony Merrett o'r cwmni: "Rydym yn gresynu at gyhoeddi hyn a'r effaith ar y rhai sy'n wynebu colli eu gwaith.

"Mae'r gweithwyr wedi bod yn gydwybodol ... rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau yn arwain at well effeithlonrwydd - ac elw."

Fe fyddai'r newidiadau'n golygu dyfodol cynaliadwy yn y tymor hir, meddai.



HEFYD
Hufenfa: Colli 93 o swyddi
28 Hyd 09 |  Newyddion
Ffatri gaws: Taro bargen
11 Meh 09 |  Newyddion
Perygl i gannoedd o swyddi llaeth
04 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific