British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010, 09:26 GMT
Ail agor tafarn i'r gymuned

Pengwern Arms, Ffestiniog
Bu tafarn y Pengwern Arms ar gau ers mis Chwefror 2009

Bydd cyfarfod cyhoeddus nos Wener i drafod ail agor tafarn y Pengwern Arms yn Ffestiniog.

Bu'r dafarn ar gau ers diwedd mis Chwefror 2009.

Ond mae grŵp wedi'i sefydlu yn y gymuned gyda'r bwriad o ail agor y busnes.

Cadeirydd grŵp Pengwern Cymunedol yw'r Cynghorydd Mel Goch Ap Meirion.

300 mlynedd

"Yn hanesyddol, fel mae'r garreg ar wal y dafarn yma'n tystio, mae'r adeilad yn sefyll ers bron i 300 mlynedd, ac mae'n bwysig i'r gymuned fel rhan o'r gymdeithas megis yr eglwys, yr ysgol y siop a'r swyddfa post," meddai.

'Da ni wedi llwyddo i roi cynnig am y lle i'r perchenogion, ac mae nhw wedi'i dderbyn o, ond mae'r twrneiod yn dal i drafod.

"Yn y cyfarfod, 'da ni'n disgwyl cefnogaeth gadarn gan y gymuned - heb y gefnogaeth yna neith y fenter yma ddim llwyddo.

Gwirfoddolwyr

Bydd angen i'r grŵp dalu blaendal o £18,500 am y dafarn, ac fe fydd ganddyn nhw tan mis Rhagfyr 2010 i ddod o hyd i'r £170,000 fydd angen i gwbwlhau'r pryniant.

Ond fe fydd y dafarn yn gallu ail agor ei drysau pan fydd y blaendal wedi'i dalu, ac fe fydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr.

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn digwydd yn neuadd bentre Llan Ffestiniog nos Wener am 7.00pm.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific