British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Ionawr 2010, 17:06 GMT
Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd

Eira yn Sir Benfro
Mae pentwr o eira wedi disgyn yn Sir Benfro nos Fawrth a bore Mercher

Fe wnaeth nifer o bobl yn Sir Benfro fentro allan yn y lluwchfeydd nos Fercher i gadw at draddodiad a dathlu'r Hen Galan ar Ionawr 13.

Drwy ddefnyddio tractorau i adael eu cartrefi diarffordd fe wnaeth trigolion Cwm Gwaun ger Abergwaun ddathlu'r Hen Galan am y tro cynta ers canrifoedd.

Roedd 'na bryderon na fyddai'r dathliadau yn mynd ymlaen oherwydd y tywydd oer.

"Fe wnaeth pump o blant fentro allan drwy 12 troedfedd o eira mewn rhai mannau i gadw'r traddodiad," meddai Enfys Howells o Bontfaen.

"Dyna fyddwn i'n ddweud ydi ymrwymiad.

"Cafodd eu nain 91 oed ei magu ar y traddodiad a dydi hi ddim yn cofio eira o'r fath ar Hen Galan yn y gorffennol."

Ychwanegodd Mrs Howells bod rhai cymdogion wedi mentro ar y tractor i gyrraedd y gwesty lle'r oedd y dathliad a chawl cynnes.

"Ychydig o deuluoedd oedd allan ond roedd yn ddathliad braf."

Ers dros 200 mlynedd mae trigolion Cwm Gwaun wedi dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd ar 13 Ionawr gan ddilyn yr hen galendr.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific