British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ionawr 2010, 11:10 GMT
Protest am fyfyriwr yng Ngroeg

Sophie Symeou a phroestwyr eraill
Chwaer Andrew, Sophie Symeou, fu'n arwain y brotest yn Llundain

Bu cefnogwyr myfyriwr o Brydain sy'n cael ei ddal mewn carchar yng Ngwlad Groeg ar gyhuddiad o ddynladdiad yn protestio y tu allan i lysgenhadaeth Groeg yn Llundain.

Mae Andrew Symeou, 21 oed, wedi ei gyhuddo o ladd Jonathan Hiles, 18 oed o Gaerdydd, drwy ei daro mewn clwb nos ar ynys Zante yn 2007.

Mae Mr Symeou, o Enfield yng ngogledd Llundain, yn cael ei gadw yng ngharchar Korydallos, sy'n cael ei gondemnio gan Amnest Rhyngwladol.

Dywed ei chwaer Sophie, a fu'n arwain y brotest, bod yr achos yn ei erbyn "yn llawn anghysondebau".

Gwadu bod yno

Bu farw Mr Hiles, oedd yn aelod o dîm hoci-sglefrolio Prydain, ym mis Gorffennaf 2007 ddeuddydd wedi iddo ddisgyn oddi ar blatfform mewn clwb nos.

Jonathan Hiles
Bu farw Jonathan Hiles o Gaerdydd ddeuddydd wedi ymosodiad arno

Gwadodd Mr Symeou ei fod yn y clwb ar y pryd hyd yn oed.

Dywedodd ei ffrindiau wrth fudiad Fair Trials International eu bod wedi cael eu curo gan heddlu Groeg tan iddyn nhw wneud datganiadau yn rhoi'r bai arno.

Cafodd Mr Symeou ei estraddodi i Wlad Groeg wedi iddo golli brwydr yn yr Uchel Lys ym mis Gorffennaf 2009.

Honiadau o gamymddwyn

Dywedodd prif weithredwr Fair Trials International, Jago Russell: "Mae Andrew eisoes wedi cael ei gadw yn y ddalfa am fisoedd heb gyfle i adfer ei enw da.

Andrew Symeou
Cafodd Andrew Symeou ei esdraddodi yn Gorffennaf 2009

"Rydym yn annog yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg i ryddhau Andrew ar fechnïaeth, ac i ymchwilio i'r honiadau o gamymddwyn difrifol gan yr heddlu."

Daeth tua 100 o brotestwyr i lysgenhadaeth Groeg yn Llundain gan waeddi "Digon yw digon" a "Cyfiawnder i Andrew".

Ychwanegodd Sophie Symeou: "Mae fy mrawd wedi diodde am rhy hir a all hyn ddim parhau.

"Mae e wedi cael ei gadw mewn carchar am chwe mis bron heb achos yn ei erbyn, ac mae e wedi cael ei wrthod am fechniaeth ddwywaith."

Doedd neb o Lysgenhadaeth Groeg ar gael i wneud sylw ar y mater.



HEFYD
Myfyriwr yn cael ei estraddodi
23 Gorff 09 |  Newyddion
Dynladdiad: Llys yng Ngroeg
01 Mai 09 |  Newyddion
Groeg: Canfod tyst
29 Tach 07 |  Newyddion
Cymro 18 oed yn marw ar wyliau
24 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific